Syrffio yn Sir Benfro
Os gymerwch chi olwg iawn ar fap o Brydain, ar leoliad Sir Benfro yn enwedig, fe fyddwch yn sylweddoli pam fod syrffio’n gallu bod cystal yma.
Gan fod prif wyntoedd y DU yn dod o’r de-orllewin, traethau agored, sy’n wynebu’r de-orllewin, sy’n cynhyrchu’r tonnau gorau a mwyaf cyson.
Mae gan Sir Benfro dros 50 o draethau a digonedd ohoynt yn addas ar gyfer dechreuwyr, lle mae’r tonnau’n torri ar dywod; hefyd, am fod y rhan fwyaf o’r arfordir yn Barc Cenedlaethol mae ganddi rai o’r mannau mwyaf prydferth a’r dyfroedd glanaf ym Mhrydain. Syrffio gyda golygfa anhygoel!