Un o’r llwybrau pellter hir gorau yn y byd

Meddai Lonely Planet

Llwybr Arfordir Sir Benfro

Llwybr Arfordir Sir Benfro

Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn 186 milltir, neu 299km, o hyd, gyda rhai o’r golygfeydd arfordirol gorau ym Mhrydain.

O Landudoch yn y gogledd i Amroth yn y de, mae’r llwybr yn crwydro trwy bob math o dirweddau morol, o glogwyni calchfaen serth, baeau o dywodfaen coch a phentiroedd folcanig i draethau, aberoedd a dyffrynnoedd o Oes yr Iâ.

 

Mae’r llwybr bron i gyd o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, ac mae cyfoeth o flodau ac adar arfordirol yma yn ogystal ag olion dynol, o’r oes Neolithig hyd heddiw.

Mae hi’n dipyn o gamp cerdded yr holl lwybr ar un tro, gan ei bod, ar gyfartaledd, yn cymryd rhwng 10 a 15 diwrnod i wneud hynny. Yn ôl y sôn, mae esgyn a disgyn yr holl lechweddi gyfystyr â dringo Everest – 35,000 troedfedd! Mae’r rhan fwyaf o ymwelwyr yn cerdded rhannau bychain ar y tro, gan gwblhau’r daith fesul tipyn, ac yn gwneud defnydd da o’r gwasanaeth bws arfordirol sy’n gwasanaethu’r cymunedau lleol yn ogystal â’r cerddwyr.

Defnyddiwch y map yma i ddysgu mwy am y 15 rhan yr ydym yn eu hargymell fel teithiau cerdded undydd.

Ffeithiau am Lwybr yr Arfordir

  • Llwybr Arfordir Cymru, a agorwyd yn 1970, oedd y Llwybr Cenedlaethol cyntaf yng Nghymru
  • Mae’n 186 milltir, neu 299km, o hyd, ac yn mynd o Landudoch i Amroth
  • Mae’n mynd heibio i 58 traeth a 14 harbwr
  • Mae gwasanaeth bws arfordirol Sir Benfro yn mynd o un pen i'r llwybr i'r llall
  • Mae’r llwybr yn esgyn a disgyn tua 35,000 o droedfeddi o un pen i’r llall - mae hynny cyn uched ag Everest!
  • Llwybr Arfordir Sir Benfro yw’r daith gerdded orau i mi fod arni - erioed!

"Llwybr Arfordir Sir Benfro yw’r daith gerdded orau i mi fod arni - erioed!"

Ian