Pwy sy’n gwylio pwy?

Morloi busneslyd, llamhidyddion a phalod digywilydd

Mae natur a bywyd gwyllt o’ch cwmpas ym mhobman yn Sir Benfro

Bywyd gwyllt yn Sir Benfro

Wedi trwmgwsg y gaeaf, daw Sir Benfro’n fyw.

Yn y gwanwyn, mae’r gwrychoedd a’r coetiroedd yn drwch o flodau’r gwanwyn sy’n bwrw’ch synhwyrau gyda’u lliw a’u harogl hyfryd. Yna, ddechrau’r haf, mae’r adar mudol, gan gynnwys palod Ynys Sgomer, yn dychwelyd.

Mae gan Sir Benfro bum ynys. Mae Sgomer a Sgogwm yn caniatáu i ychydig o ymwelwyr lwcus aros dros nos a chrwydro’r Ynys wedi i bawb arakk fynd adref. Mae Ynys Dewi’n Warchodfa RSPB yn ogystal â bod yn gartref i’r unig haid o geirw yn Sir Benfro.

Ynys fechan sy’n edrych fel cacen gydag eisin yw Gwales. Mae’r ynys yn gartref i’r nythfa fwyaf o huganod yn Ewrop – 50,000 o adar wedi’u gwasgu ar y graig fechan yma. Mae’n rhaid i chi ei weld, a’i arogli, i gredu’r peth.

Yr hydref yw tymor y morloi yn Sir Benfro. Caif cannoedd o forloi llwyd eu geni ar draethau anghysbell Gogledd Sir Benfro. Mae rhai i’w gweld o lwybr yr arfordir a’r traethau ond cadwch yn ddigon pell! Mae’n amser gwych ar gyfer adar mudol hefyd, ac yn un o’r tymhorau gorau i wylio adar.

"Mae Pen-cae’n denu cannoedd o adar mudol a mamaliaid y môr ac mae’n gartref i un o arsyllfeydd bywyd gwyllt pwysicaf Ewrop."

Mark Rowe, ar gyfer