Dewch i adnabod arfordir Cymru

Teithiwch Ffordd yr Arfordir

Trip anhygoel ar hyd y glannau

Crwydrwch Ffordd yr Arfordir

Dewch i adnabod glannau Cymru trwy grwydro yn y car ar hyd Ffordd yr Arfordir

Mae hon yn rhan o Ffordd Cymru, teulu o dair ffordd genedlaethol a lansiwyd yn ddiweddar – Ffordd yr Arfordir, Ffordd Cambria, a Ffordd Gogledd Cymru – sy’n eich tywys trwy olygfeydd mwyaf trawiadol ein gwlad. Lluniwyd y llwybrau er mwyn cyflwyno’r gorau o Gymru i ymwelwyr. Mae digonedd o awgrymiadau ac argymhellion o ran pethau i’w gweld a’u gwneud ar hyd y daith, gan roi’r wybodaeth leol i chi allu mentro ychydig ymhellach oddi ar y llwybr a chreu eich antur eich hunain. 

Aiff Ffordd yr Arfordir â chi o un pen o Fae Ceredigion i’r llall, trwy Sir Benfro, Ceredigion, a Gwynedd. Mae’n drip anhygoel ar hyd y glannau – o ddinas fechan Tyddewi yn y de i greigiau Aberdaron a thonnau gwyllt y môr ym Mhen Llŷn. Dyma daith a hanner, trwy ddau Barc Cenedlaethol, Arfordir Treftadaeth, ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a chewch flas go iawn ar amrywiaeth tirwedd Cymru wrth i chi ymweld â thraethau tywodlyd, porthladdoedd anghysbell, aberoedd eang, baeau cudd, a chestyll trawiadol. 

Cwm-yr-Eglwys

Ffordd yr Arfordir yn Sir Benfro  

Mae tua 60 milltir o Ffordd yr Arfordir yn Sir Benfro – rhwng Tyddewi a Thraeth Poppit ger Aberteifi. Mae’r ffordd yn ardal Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yr unig Barc Cenedlaethol arfordirol yn y DU, a bydd pob rhan o’r daith yn eich tywys trwy dirwedd gyfoethog ac amrywiol. Dyma wlad o hud a lledrith sydd wedi ysbrydoli pobl ers canrifoedd boed yn artistiaid, yn hen seintiau, yn bererinion neu’n ymwelwyr. 

Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Mae’n llwybr llawn uchafbwyntiau. Dyma ambell un, o’r gorllewin i’r dwyrain. 

Os am antur go iawn, beth am drip i Ynys Dewi? Gallwch ddal cwch i’r warchodfa natur yma o Dyddewi. Dyma un o’r lleoedd gorau ar gyfer gwylio bywyd gwyllt, gan gynnwys heidiau o adar, llamhidyddion, a morloi llwyd. Ac mae Tyddewi ei hun wedi hudo pobl ers canrifoedd – yn y canol oesoedd dywedwyd fod dwy bererindod i Eglwys Gadeiriol Tyddewi gyfystyr ag un i Rufain. Dyma ddinas leiaf y DU ac, yn ein tyb ni, y lle sydd â’r nifer fwyaf o orielau a stiwdios fesul aelod o’r boblogaeth (2000 o bobl). 

Porthgain

Taith fer sydd ar hyd arfordir creigiog gogledd Sir Benfro o Dyddewi i harbwr cysgodol a phentref difyr Porthgain. Dyma le gwych i gael blas o’r môr, naill ai trwy grwydro’r clogwyni mewn caiac neu trwy wledda ar grancod lleol sy’n cael eu dal yn ddyddiol.  

Mae Cwm Abergwaun yn borthladd bach arall cwbl nodweddiadol o ogledd Sir Benfro, tra bo Trefdraeth yn denu’r criw ffasiynol. 

Trefdraeth

Rhwng Abergwaun a Threfdraeth mae Cwm Gwaun a grëwyd gan rewlifoedd Oes yr Ia. Mae’r dyffryn cul hwn yn ymestyn o’r môr tuag at fynyddoedd y Preseli, lle mae’r Parc Cenedlaethol yn mentro i mewn i’r tir i gynnwys bryniau gwyrddion a’u holl olion cynhanes. 

Traeth Poppit

Daw Sir Benfro i ben ar draeth Poppit, traeth mawr, gwyntog a thywodlyd gerllaw pentref hanesyddol arall, Llandudoch, ar aber afon Teifi.

Bydd gennych ddigon o ddewis o ran gweithgareddau awyr agored, chwaraeon dŵr, lleoedd bwyta, a llety yn ystod eich taith.

Ymlaen ar hyd Ffordd yr Arfordir  

Mae Sir Benfro ym mhen deheuol Ffordd yr Arfordir, gyda Cheredigion a Mynyddoedd ac Arfordir Eryri i’r gogledd. Beth am barhau â’r daith yr holl ffordd i Ben Llŷn? 

Abercastell

Dod i adnabod Ffordd yr Arfordir  

Mae cymaint i’w weld ar hyd Ffordd yr Arfordir fel ei bod hi’n anodd gwybod ble i ddechrau. Er mwyn eich rhoi ar ben ffordd, rydym wedi creu cyfres o deithiau thema sy’n dangos y gorau sydd gan Ffordd yr Arfordir i’w gynnig. Boed yn wyliau byr o ddeuddydd neu dri, neu’n drip wythnos gron, bydd y teithiau yma’n rhoi blas i chi o’r hyn sydd gan ein harfordir anhygoel ni i’w gynnig i chi 

Mwynhewch y daith.