Pam fod Sir Benfro’n lle mor arbennig i chi â’ch ci?
Gwyliau yn Sir Benfro sy’n croesawu cŵn
Does unman gwell na Llwybr Arfordir Sir Benfro: 186 milltir o harddwch rhyfeddol.
Bydd hynny’n ddigon i’ch blino chi a’ch ci! A gallwch hefyd grwydro lonydd tawel cefn gwlad, neu’r rhwydwaith o lwybrau cerdded a llwybrau marchogaeth drwy goedwigoedd a hyd afonydd y fro. Darllenwch argymhellion Mollie’r Ci Defaid a’i ffrindiau am lefydd da i fynd â’ch ci am dro, a lawrlwythwch y Côd Cerdded Cŵn er mwyn sicrhau eich bod yn ddiogel.
Mae dros 50 o draethau yn Sir Benfro, rhai’n dywod euraid eang, eraill yn faeau bychain diarffordd. Llefydd gwych i fynd am dro – yn enwedig yn ystod tymhorau tawel y gaeaf a’r hydref. Mae cŵn yn cael eu gwahardd o rai traethau rhwng Mai 1af a Medi 30ain. Defnyddiwch ein mapiau defnyddiol i weld os bydd cyfyngiadau ar eich hoff draeth chi. Mae croeso i gŵn tywys ar draethau Sir Benfro trwy gydol y flwyddyn.
Bydd gennych ddigon o ddewis o ran llety sy’n croesawu cŵn, lle cewch ddewis da o gyfleusterau a chroeso mawr i chi a’ch ci.