Sir Benfro - perffaith ar gyfer gwyliau gyda’r teulu
Gwyliau i’r teulu yn Sir Benfro
Tirwedd odidog ac arfordir sy’n cael ei warchod – maes chwarae naturiol heb ei ail.
Mae gennym lu o draethau: rhai yn fychan a diarffordd ac eraill sy’n fawr ac yn dywodlyd. Ardderchog ar gyfer chwilota mewn pyllau glan môr, corff-fyrddio, a chodi cestyll tywod. Bydd hyd yn oed y rhai yn eu harddegau’n mwynhau’r holl chwaraeon dŵr sydd ar gael!
Ac mae’n ‘rhaid’ mynd ar drip cwch i’r ynysoedd – taith dros y tonnau i weld morloi, dolffiniaid, palod, ac os fyddwch chi’n lwcus, morfilod neu bysgod haul!
Pan na fyddwch chi ar y traeth, mae parciau thema a pharciau antur yn syniad gwych, neu gallwch gael hyfforddiant mewn chwaraeon o bob math gan weithredwyr gweithgareddau cymwys. Mae digon o weithgareddau i gadw pawb yn hapus.
Ac ar ddiwedd diwrnod hir, llawn gweithgareddau, gallwch ddychwelyd i’ch gwesty cyfoes, bwthyn clyd, neu wersyll diarffordd gyda thân agored, er mwyn paratoi ar gyfer gwneud hyn i gyd eto fory!