Cwcis

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gwella eich profiad chi. Bydd y wybodaeth a gedwir gan y cwcis yma’n cael eu cadw’n breifat ac ni chânt eu gwerthu i sefydliadau trydydd parti.

Sut yr ydym yn ddefnyddio cwcis

Pan fyddwch chi’n ymweld â’n gwefan byddwn yn defnyddio cwcis. Mae cwcis yn cadw gwybodaeth amdanoch chi trwy ddefnyddio ffeiliau bychain iawn sy’n cael eu hanfon atom gan eich cyfrifiadur neu’ch dyfeisiau eraill. Rydym yn defnyddio cwcis er mwyn hwyluso dilysiad, e-fasnach a gwaith dadansoddi gwefannau.

Mae cwcis yn cyflymu ac yn hwyluso’r defnydd o wefannau gan ddefnyddwyr. Hebddynt, byddai’n anodd iawn i wefan ganiatáu i ddefnyddiwr lenwi basged siopa neu gofio dewisiadau neu gofrestriad defnyddiwr wrth iddynt ymweld yn y dyfodol.

Yn bennaf, rydym yn defnyddio cwcis gan eu bod yn arbed amser ac yn gwneud eich profiad chi’n fwy effeithlon a dymunol. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis dadansoddi er mwyn casglu gwybodaeth ynglŷn â’r ffordd yr ydych chi’n defnyddio’r wefan, sy’n caniatáu i ni wella’r wefan ac adnabod unrhyw wallau sy’n eich atal rhag gwneud yr hyn yr ydych yn dymuno ei wneud.

O ddefnyddio ein gwefan, rydych chi’n cytuno gyda’n polisi preifatrwydd a’n polisi cwcis, a’n defnydd ni ohonynt. Os nad ydych chi’n cytuno â defnydd o’r fath, gwelwch yr adran ‘Rheoli Cwcis’ i ddysgu sut i newid gosodiadau eich porwr.

Mathau o cwcis

Cwcis sesiwn/dros dro – bydd y cwcis yma ond yn para yn ystod eich sesiwn ac fel rheol bydd eich porwr yn eu dileu pan fyddwch yn ei gau.

Cwcis dilysu – defnyddir y cwcis yma yn benodol i wirio os yw defnyddiwr wedi mewngofnodi neu ddim.

Cwcis parhaol – caiff y math yma o gwcis eu storio yng nghyfrifiadur y defnyddiwr ac ni chânt eu dileu wrth gau’r porwr.

Cwcis Flash/gwrthychau a rennir yn lleol (local shared objects) – Gall Adobe Flash storio ffeiliau bychain o wefannau ar eich cyfrifiadur. Adnabyddir y ffeiliau hyn fel gwrthychau a rennir yn lleol neu cwcis Flash, a gellir eu defnyddio i’r un dibenion â chwcis arferol. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Adobe.

Cwcis ‘Google Analytics’ – mae’r cwcis yma’n ein helpu ni i ddeall sut y mae defnyddiwr yn defnyddio ein gwefan er mwyn i ni allu ei gwella. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Google Analytics.

Cwcis trydydd parti – caiff y cwcis yma eu gosod gan barth gwahanol i’r wefan yr ydych chi’n edrych arni. Er enghraifft, gall cwcis trydydd parti fod yn bresennol pan fydd fideos YouTube yn cael eu cynnwys ar ein gwefan, neu pan ddefnyddir pyrth talu fel PayPal i dalu am docynnau ar y we. Nid ydym yn rheoli gosodiadau’r cwcis yma, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y cwcis trydydd parti hyn.

Rheoli cwcis

Mae gan bob porwr wahanol ddewisiadau er mwyn rheoli cwcis ar eich cyfrifiadur neu ddyfais. Gellir newid y gosodiadau hyn er mwyn atal cwcis rhag cael eu derbyn a gellir gosod rhai porwyr i ddangos rhybudd pan fydd gwefan yn ceisio gosod cwci yn eich porwr. Gellir gosod y rhan fwyaf o borwyr i ganiatau cwcis gan y parti cyntaf, ond i atal cwcis trydydd parti.

Pe byddech yn dewis peidio â chaniatáu cwcis gan ein gwefan ni, byddwch yn dal i allu defnyddio’r wefan ond ni fydd eich profiad cystal. Heb gwcis, ni fyddwch yn gallu defnyddio rhai agweddau penodol o’r wefan.

Cwestiynau Cyffredin

Pam defnyddio cwcis?

Rydym yn defnyddio cwcis er mwyn hwyluso dilysiad, e-fasnach, a dadansoddi gwefannau. Gall ein gwefan ddefnyddio cwcis gan rai partneriaid trydydd parti dethol.

A oes raid i mi dderbyn cwcis?

Nac oes. Ond, os fyddwch yn dewid peidio â chaniatáu cwcis gan ein gwefan ni, byddwch yn dal i allu defnyddio’r wefan ond ni fydd eich profiad cystal. Hefyd, ni fyddwch yn gallu defnyddio rhai agweddau penodol o’r wefan, megis prynu tocynnau, heb y defnydd o gwcis.

A yw cwcis yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol?

 Nac ydyn. Nid yw’n cwcis ni’n cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol megis eich cyfeiriad neu fanylion eich cerdyn banc. Ni allwn ni reoli pa wybodaeth a gedwir gan gwcis trydydd parti a ddefnyddir ar ein gwefan.