Popeth mewn un lle
Pentrefi gwyliau yn Sir Benfro
Mewn parc gwyliau yn Sir Benfro mae gennych y rhyddid i wneud cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch chi!
Gadewch y car, neidiwch ar gefn beic, ac ewch am dro o gwmpas y parc. Does dim traffig, felly mae’n lle arbennig ar gyfer beicwyr sigledig y teulu! Os ydych am fynd y tu hwnt i ffiniau’r parc, mae tripiau arfordira a cherdded wedi’u trefnu, neu gallwch chi ddilyn eich trwyn o gwmpas cefn gwlad godidog Sir Benfro.