O amgueddfeydd cenedlaethol i stiwdios bychain
Amgueddfeydd ac orielau yn Sir Benfro
Mae gan Sir Benfro nid yn unig un, ond dwy oriel ardderchog: Mae Glan-yr-Afon/Riverside, a agorwyd yn Hwlffordd yn ddiweddar, yn arddangos gweithiau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac mae Oriel Y Parc yn arddangos tirluniau cain o gasgliad Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Ond yn anffodus, allwch chi ddim mynd â nhw gartref!
Er mwyn cael darn gwych o gelf, bydd angen i chi fynd i un o’r orielau celf yn Sir Benfro sy’n arddangos gwaith gan gasgliad o artistiaid, yn beintwyr, cerflunwyr, crochenwyr a gwneuthurwyr gemwaith, i gyd dan yr un to.
[Maenordy Scolton] Tŷ diddorol iawn sy’n eich ysbrydoli
Elwyn Hughes, ar Facebook
Gellir gweld gorffennol lliwgar Sir Benfro mewn nifer o amgueddfeydd. Parc gwledig 60 erw yw Maenordy Scolton, sy’n cynnwys amgueddfa Maenordy Fictoraidd. Mae amgueddfa Arberth yn llawn o eitemau diddorol a chlyfar ac mae Amgueddfa Dinbych-y-pysgod yn drysorfa sy’n adrodd hanes porthladd pysgota a masnachu a ddaeth yn gyrchfan ffasiynol.
Mae tapestri anhygoel y Goresgyniad Olaf yn Abergwaun yn dapestri wedi’i frodio, 30 metr o hyd, sy’n adrodd hanes goresgyniad olaf tir mawr Prydain ym 1797. Cymerodd ddwy flynedd i 70 o fenywod gwblhau’r campwaith hwn.