Os am ddyddiau hirfelyn tesog
Dewch i Sir Benfro yn yr haf
Wedi prysurdeb y gwanwyn, daw gwres yr haul i’n harafu, gobeithio!
Dyddiau diog yn crwydro’r arfordir gyda gwynt y môr yn torri drwy’r gwres, pa ffordd well o ddianc rhag prysurdeb bywyd bob dydd? Yr haf yw’r adeg berffaith i ymweld â Sir Benfro.
Y traethau’n ferw o deuluoedd, a sŵn eu chwerthin i’w glywed o ochr draw y bae. Plant yn rhuthro dros y tywod aur i gyrraedd môr sydd ychydig yn oerach nag yr oeddent wedi’i feddwl!
Treulio’r nosweithiau gyda chwmni da, yn gwledda ar fwydydd gorau Sir Benfro, ac yn gwylio’r haul yn araf fachlud dros y gorwel.
Dyma’r tymor i ymlacio a mwynhau cwmni’n gilydd.