Mae pawb angen seibiant
Penwythnosau a gwyliau byr yn Sir Benfro
Sir Benfro yw’r lle perffaith ar gyfer gwyliau penwythnos.
Gall fod yn llawn egni: yn cael hwyl yn taflu’ch hun o’r clogwyn i’r môr wrth arfordira. Gall fod yn dawel a myfyriol: mewn spa moethus efallai, neu’n ymweld ag amgueddfa neu oriel. Gall fod yn wyliau penwythnos gyda’r merched, neu’r bechgyn, yn gyfle i fwynhau gyda chyfeillion bore oes. Gall fod yn gyfle i chi gerdded eich rhan olaf o lwybr yr arfordir, a chwblhau’r daith 186 milltir o’r diwedd!
Gallwch dreulio’r penwythnos cyfan yn bwyta pob mathau o fwydydd a diodydd o Sir Benfro. Bydd pawb yn siwr o fwynhau hynny! Cynhelir gwyliau bwyd trwy gydol y flwyddyn, er mwyn eich temtio gyda chynnyrch gorau’r Sir.
Eich penwythnos chi, eich dewis chi.