Pan fydd y tonnau’n torri

Does unman gwell

Yn ddechreuwr neu’n hen law, mae traeth yma i chi

Traethau syrffio gorau Sir Benfro

Yn ddechreuwr neu’n syrffiwr profiadol sydd wedi hen arfer reidio’r tonnau mawr, dyma’r llefydd gorau yn Sir Benfro i chi.

Traeth yn wynebu’r de-orllewin gydag enw da am y syrffio mwyaf cyson yng Nghymru. Ar y traeth mae’r tonnau’n torri gan mwyaf, er bod rhai tonnau ardderchog yn torri ar y riff tuag at y pen deheuol. Yma, mae’r tonnau bron bob amser ddwy droedfedd yn fwy na’r rhai ar draethau eraill ac felly mae’r traeth yn llawn syrffwyr er ei fod yn bell o bobman. Mae’r tonnau yma ar eu gorau pan fydd ymchwyddiadau cadarn a gwyntoedd o’r gogledd-ddwyrain, ond dydy o DDIM yn lle addas i syrffwyr amhrofiadol. Gall y tonnau dorri’n gyflym a nerthol gydag islifau cryfion ac mae creigiau a thywod meddal mewn mannau. Mae ysgol syrffio ar y traeth yma felly dylai dechreuwyr neu syrffwyr amhrofiadol drefnu gwersi cyn meddwl mynd allan i’r tonnau.

Traeth o greigiau a thywod sy’n wynebu’r de-orllewin. Dydy hwn ddim yn llydan iawn ac mae’n gallu bod yn llawn iawn. Mae’r prif faes parcio ym mhentref Dale a rhaid cerdded hanner milltir i’r traeth, ond os nad ydy hi’n rhy brysur mae ychydig o leoedd parcio wrth ymyl y ffordd. Mae’r tonnau’n dda yma pan fydd ymchwyddiadau cadarn a gwyntoedd gogledd-ddwyreiniol ond gwyliwch rhag cerhyntau terfol ac annisgwyl, creigiau dan y dŵr a thonnau nerthol. Gwell gadael fan hyn i’r syrffwyr mwy profiadol.

Traeth anghysbell sydd byth yn orlawn am fod y llwybr hir i lawr i’r traeth yn atal y rhan fwyaf o bobl rhag mentro. Mae’r ymchwydd yma’n debyg i Orllewin Dale a’r tonnau’n dda pan fydd ymchwydd cadarn a gwyntoedd o’r gogledd-ddwyrain. Yn gyffredinol mae ar ei orau pan fydd y llanw’n eithaf isel. Mae’r tonnau’n torri ar dywod ond gwyliwch rhag cerhyntau terfol, creigiau a’r llanw’n dod i mewn, oherwydd gall eich rhwystro rhag gallu cyrraedd yn ôl i’r lan. Addas i syrffwyr canolradd i brofiadol.

Un o’r traethau mwyaf hygyrch yn Sir Benfro, gyda meysydd parcio mawr mewn tri lle. Mae’n draeth mawr tywodlyd, ddwy filltir o hyd, gyda llethr anferth o gerrig mân y tu ôl iddo, digon o le i bawb felly. Mae’n wynebu’r de-orllewin, ond mae penrhyn Marloes yn ei gysgodi rywfaint, gan wneud y syrffio’n weddol gyson. Mae’r tonnau ar eu gorau yma pan fydd ymchwyddiadau da a gwyntoedd dwyreiniol ac, ar y cyfan, dydyn nhw ddim mor nerthol â hynny felly mae’n boblogaidd iawn gyda rhai sy’n defnyddio byrddau hir a phadlfyrddau. Mae achubwyr bywyd ar ran o’r traeth yn ystod yr haf ac mae ysgol syrffio a lle llogi cyfarpar yma, sy’n ei wneud yn lle delfrydol i ddechreuwyr.

Traeth tywodlyd sy’n wynebu’r gorllewin, gyda syrffio gweddol gyson sydd ar ei orau pan fydd ymchwyddiadau cadarn a gwyntoedd dwyreiniol. Mae hwn yn draeth prysur sy’n denu llawer iawn o bobl yn yr haf, a gall hyn greu gwrthdaro gyda defnyddwyr eraill y traeth o bryd i’w gilydd, er bod ardaloedd dim nofio yma. Yn aml, ceir cerhyntau cryf tua’r pen gogleddol gyda thonnau nerthol cyflym sy’n dda i syrffwyr canolradd i brofiadol. Mae’r maes parcio wrth ymyl y traeth ac achubwyr bywyd ar ddyletswydd yn yr haf. Mae ysgol syrffio a lle llogi cyfarpar ar y traeth yn ystod y tymhorau brig.

Yr unig draeth yn ardal Dinbych-y-pysgod sy’n wynebu’r de. Mae’r tonnau’n torri ar y traeth yn bennaf gyda riff ar ochr dde’r bae. Mae’r syrffio ar ei orau pan fydd ymchwyddiadau cadarn a gwyntoedd gogleddol, ond gwyliwch rhag cerhyntau terfol a chreigiau i’r ochr dde. Mae maes parcio gweddol fawr yn ymyl y traeth ond mae’n boblogaidd gyda theuluoedd a syrffwyr yn yr haf, sy’n gallu achosi gwrthdaro yn y dŵr. Mae’r traeth hwn yn fwyaf addas i syrffwyr canolradd i brofiadol. Cadwch at yr ardaloedd tywodlyd i’r chwith os ydych yn dechrau dysgu.

  • Dinbych-y-pysgod

Mae tonnau anhygoel ar Draeth y De, Dinbych-y-pysgod yn ystod rhai o ymchwyddiadau mawr y gaeaf, ond anaml y bydd hyn yn digwydd. Dim ond ryw ddwywaith y flwyddyn mae’r lle yma ar ei orau mewn gwirionedd, pan fydd y gwynt a’r ymchwydd yn berffaith. Ond os fyddwch chi’n ddigon ffodus i fod yno bryd hynny, yn gyffredinol mae’r tonnau’n torri’n ble bynnag fydd y banciau tywod wedi ffurfio, gan greu tonnau nerthol a chyflym.  Gwell osgoi’r ardal pan fydd y llanw allan am fod y don yn torri mewn dŵr bas iawn. Dim ond syrffwyr profiadol ddylai fentro yma.

  • Abereiddi

Llecyn anghysbell sydd yn gyffredinol angen tipyn o ymchwydd a gwynt dwyreiniol er mwyn i’r tonnau dorri, ond mae’n gallu bod yn eitha da yma. Mae’r clogwyni uchel yn ei gysgodi rhag gwyntoedd cryfion ac, ar rai adegau o’r llanw, mae tonnau chwith gwag perffaith yn torri dros rîff i ochr chwith y traeth. Dydy’r fan hyn ddim yn addas i ddechreuwyr oherwydd y rîff, ond mae ton yng nghanol y traeth sy’n torri dros dywod. Traeth sy’n fwy addas ar gyfer syrffwyr canolradd a phrofiadol.

Ddim yn syrffio ond am roi cynnig arni? Chwiliwch am ddarparwr syrffio gan gynnwys ysgolion syrffio i blant sydd â gwersi sy’n berffaith i blantos bach a mawr!

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi