Polisi Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd Darganfod Sir Benfro

(www.www.visitpembrokeshire.com)

Cyflwyniad

Darganfod Sir Benfro Cyfyngedig:

Mae Partneriaeth Cyrchfan Sir Benfro (DPP) – yn cynnwys Twristiaeth Sir Benfro, Cyngor Sir Benfro, PLANED ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro – wedi bod yn gweithio’n agos gyda’i gilydd i ddod â bywyd i ‘Darganfod Sir Benfro’, Sefydliad Rheoli Cyrchfan newydd Sir Benfro.

Y Sefydliad Rheoli Cyrchfan (DMO) hwn yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru sy’n cyfuno’r sectorau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector i helpu i yrru twf a datblygiad o fewn y sector economaidd allweddol hwn.

Lansiwyd y DMO newydd ar 16 Tachwedd 2020.

Data Aelodau

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i’w ddisgwyl pan rydym yn casglu data personol gennych chi. Mae’n berthnasol i wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch chi wrth ymuno fel aelod o Darganfod Sir Benfro Cyf, archebu eich digwyddiadau, llogi lleoliad, neu wrth gysylltu â ni ar gyfer gwybodaeth ymwelwyr / twristiaid.

O dan y Ddeddf Ddiogelu Data (DPA 2018), mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu gan ein haelodau neu unrhyw un arall mewn perthynas â’n digwyddiadau. Rydym yn cynnal safonau diogelwch llym i atal unrhyw fynediad heb awdurdod i’ch data.

Mae’r sail gyfreithiol sydd gan Darganfod Sir Benfro Cyf ar gyfer cadw eich data personol yn ddiddordeb gwirioneddol ar gyfer rheoli’r broses aelodaeth, a’ch hysbysu chi am Darganfod Sir Benfro Cyf, newyddion o’r diwydiant twristiaeth a’n digwyddiadau i aelodau, fel rhan o’r aelodaeth.

Bydd Darganfod Sir Benfro hefyd yn cadw data wrth brosesu, ac mae’n hanfodol ar gyfer perfformio contract yr ydych chi’n rhan ohono (megis archebion llogi lleoliad neu ddigwyddiadau, neu wasanaethau eraill a geisir) neu ar gyfer unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol i ddilyn y gyfraith.

Er diben y DPA, oni nodir yn wahanol, y rheolwr data yw Darganfod Sir Benfro Cyf, Ystafell 4, Swyddfeydd Llanion Cove, Bro Cleddau, Doc Penfro, Sir Benfro SA72 6UJ

Y math o ddata rydym yn ei gasglu

Gwybodaeth a roddwch i ni

Gall hyn gynnwys llenwi un o’n ffurflenni cyswllt / archebu (gweler ffurflenni ar-lein isod), neu drwy gyfathrebu gyda ni dros y ffôn, e-bost neu mewn ffordd arall, megis y cyfryngau cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth y byddwch yn ei darparu wrth gwblhau ffurflen gais aelodaeth, pan fyddwch yn newid eich manylion personol, neu’n adrodd problem gyda’n gwefan. Gallai’r wybodaeth a rowch i ni gynnwys eich enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn a gwybodaeth ariannol.

Gwybodaeth a gasglwn amdanoch chi

Cwcis – Ffeiliau Play Your Part – With the loosening of restrictions and the promise of brighter days ahead, this summer is warming up to be one of the most eagerly anticipated in recent memory – with record numbers expected to visit in the coming months.un bychain yw cwcis a osodir ar eich cyfrifiadur gan wefannau rydych yn eu defnyddio. Cânt eu defnyddio’n eang er mwyn galluogi gwefannau i weithio, gwella profiad y defnyddiwr, yn ogystal â darparu gwybodaeth i berchnogion y wefan. We use cookies at www.visitpembrokeshire.com to collect and store information when you visit our website for analytical purposes. Mae hyn yn berthnasol i draffig gwefan a/neu wella profiad traffig ac ymwelwyr gan ddefnyddio Google Analytics, gwasanaeth trydydd parti. Mae’r data a gesglir yn cael ei goladu ac yn anhysbys, ac ni fyddwn byth yn ceisio adnabod unigolyn. Gallwch ddiffodd y cwcis yn eich porwr i atal gwybodaeth rhag cael ei choladu wrth ymweld â’n gwefan.  I gael gwybod mwy am gwcis, gan gynnwys sut i weld pa gwcis sydd wedi’u gosod a sut i’w rheoli a’u dileu, ewch i AllAboutCookies.org.

Gwefannau eraill rydym yn eu Cyhoeddi – Word Press – –Mae Pembrokeshiretourismawards.net yn defnyddio’r fersiwn hunan gynnal yn  WordPress.org ac fe’i cynhelir gan KRYSTAL https://krystal.co.uk. Rydym yn defnyddio gwasanaeth sylfaenol WordPress i gasglu gwybodaeth anhysbys am weithgaredd y defnyddiwr ar y gwefannau, er enghraifft, y nifer o ddefnyddwyr sy’n edrych ar dudalennau ar y gwefannau, i fonitro ac adrodd ar effeithiolrwydd y wefan a’n helpu ni i’w gwella. Am ragor o wybodaeth am sut mae WordPress yn prosesu data, ewch i hysbyseb preifatrwydd Automattic’s.

Data e-bost – Rydym yn defnyddio darparwr trydydd parti, Mailchimp, i ddosbarthu ein eGylchlythyr. Rydym yn defnyddio Mailchimp i storio ein rhestrau postio, ac i gasglu ystadegau ar y nifer o e-byst a agorwyd a chliciau er mwyn helpu i wella ein eGylchlythyrau. Am ragor o wybodaeth, ewch i datganiad Preifatrwydd Mailchimps. Gallwch dad-danysgrifio o’r eGylchlythyrau ar unrhyw adeg y dymunwch drwy glicio ar y botwm dad-danysgrifio sy’n ymddangos ar waelod ein eGylchlythyrau neu drwy gysylltu â ni ar 01646 622228 neu@visitpembrokeshire.com

Arolygon – Ar brydiau, rydym yn arolygu ein haelodau i ddeall eu hanghenion a safbwyntiau’n well ynghylch y fasnach dwristiaeth. Mae arolygon yn opsiynol ac anhysbys.

Darperir gwybodaeth gan ffynonellau eraill

Mae Darganfod Sir Benfro Cyf yn cymryd rhan yn aml mewn prosiectau ar y cyd â phartneriaid, ac felly, gallant gasglu gwybodaeth gan bartneriaid prosiect.

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth?

Yr hyn rydym yn ei wneud â’r wybodaeth rydych yn ei darparu i ni

Aelodaeth Darganfod Sir Benfro Cyf

  • Prosesu a gweinyddu aelodaeth Darganfod Sir Benfro Cyf
  • Cyfathrebu gyda chi am lobio, newyddion yn y diwydiant a’ch gwneud chi’n ymwybodol o ddigwyddiadau a gweithdai, (yn enwedig digwyddiad a drefnir gennym ni ar gyfer ein haelodau)
  • Ystadegau ac ymchwil fewnol
  • Eich gwneud chi’n ymwybodol o gynigion a chyfleoedd a ddarperir gan eich cyd-aelodau
  • Cyfathrebu gyda chi ynghylch unrhyw newidiadau i’n gwasanaeth

Ceisiadau am wybodaeth

  • Aelodaeth – Darparu gwybodaeth i chi am ymuno â Darganfod Sir Benfro Cyf
  • Darparu unrhyw wybodaeth arall a wnaed cais amdani i ch

Yr hyn yr ydym yn ei wneud gyda’r wybodaeth a gasglwn amdanoch chi

Gwneud gwelliannau gweledol a thechnegol i’n gwefan drwy ddeall yn well sut mae’n cael ei defnyddio, a pha mor effeithiol ydyw, yn well.

Darparu profiad gwell i aelodau

Darperir gwybodaeth gan ffynonellau eraill

Defnyddir unrhyw wybodaeth gan bartneriaid prosiect ar gyfer defnydd sy’n gysylltiedig ag unrhyw brosiect arall rydym yn ei wneud yn unig.

Rhannu eich gwybodaeth

Rhannu eich data:

Os byddwch wedi rhoi eich caniatâd i ni, efallai y byddwn yn rhannu manylion gyda:

  • Partneriaid prosiect neu fusnes
  • Aelodau eraill o Darganfod Sir Benfro Cyf

Datgelu:

Efallai y byddwn yn datgelu eich gwybodaeth i drydydd partïon:

  • Rydych wedi rhoi caniatâd i ni
  • Mae dyletswydd arnom i ddatgelu neu rannu eich gwybodaeth bersonol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol

Sut mae data’n cael ei gadw a chyfnodau cadw data

Bydd yr holl ffurflenni aelodaeth / archebu llawn yn cael eu cadw (yn ddiogel yn ein swyddfa neu gyfrifiadur swyddfa) am chwe blynedd yn unol â chyfraith contract gyfredol. Bydd gwybodaeth gyfyngedig yn cael ei chadw yn unol â gofynion CThEM ar gyfer cofnodion ariannol am hyd at 7 mlynedd.

Llythyrau – fe’u cedwir yn ddiogel ar y safle am ddim mwy na 12 mis, oni bai eu bod nhw’n destun gweithred gyfreithiol.

Pobl sy’n ein e-bostio – Rydym yn defnyddio Microsoft Office365 sy’n defnyddio Diogelwch Haen Cludo (TLS) i amgryptio yr e-byst sy’n eich cyrraedd a’ch gadael yn awtomatig ond dim ond os yw darparwr yr anfonwr a derbynnydd yr e-bost yn defnyddio TLS bob amser. Gall defnyddwyr atal negeseuon rhag cael eu hanfon neu eu derbyn, oni bai eu bod nhw yn amgryptiedig o ran S/MIM neu wedi’u llofnodi.  Os nad yw eich gwasanaeth e-byst yn cefnogi TLS, dylech ddeall ei bod yn bosib na fydd yr e-byst rydym yn eu hanfon neu eu derbyn yn cael eu diogelu wrth gael eu dosbarthu. Byddwn hefyd yn monitro unrhyw e-byst a anfonir atom ni, yn cynnwys atodiadau ffeil, ar gyfer feirysau neu feddalwedd faleisus. Cofiwch fod gennych gyfrifoldeb i sicrhau bod unrhyw e-byst y byddwch yn eu hanfon o fewn ffiniau’r gyfraith.

Cyfryngau Cymdeithasol – Rydym yn rheoli ein rhyngweithiadau cyfryngau cymdeithasol. Os byddwch yn anfon neges breifat neu uniongyrchol atom ni drwy ein cyfryngau cymdeithasol, ni rennir y neges ag unrhyw sefydliad arall oni bai ein bod yn derbyn cyfarwyddyd i wneud hynny.

Ffurflenni Ar-lein – Rydym yn casglu ceisiadau ymuno aelodaeth ac archebion ar gyfer digwyddiad / gweithdy drwy ddefnyddio gwasanaeth trydydd parti, Microsoft Forms. Mae Microsoft hefyd wedi cyhoeddi ei ymrwymiad i Gydymffurfiaeth GDPR (DPA 2018) – Darllenwch yma

Gwefan – Rydym wedi rhoi (neu rydych chi wedi dewis) cyfrinair sy’n eich galluogi chi i gael mynediad at rannau penodol o’n gwefan, er mwyn diweddaru rhestriadau eich gwefan, ac rydych chi’n gyfrifol am gadw’r cyfrinair yn gyfrinachol. Gofynnwn i chi beidio â rhannu’r cyfrinair gydag unrhyw un. Cedwir enw, e-bost a chyfrinair eich busnes ar ein gwefan cyhyd ag y byddwch yn aelod o Darganfod Sir Benfro Cyf, neu hyd nes eich bod yn gofyn i ni dynnu eich manylion.

Arolygon – O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn yn arolygu aelodau Darganfod Sir Benfro Cyf ynghylch materion yn ymwneud â’r diwydiant neu i bennu anghenion y fasnach. Rydym yn gwneud hyn drwy ddefnyddio gwasanaeth trydydd parti Wufoo. Mae data arolygon yn gyfrinachol ac fe’i cedwir am byth.

rhestr bostio eGylchlythyr:Rydym yn defnyddio darparwr trydydd parti, Mailchimp, i ddosbarthu ein eGylchlythyrau, ac i gadw copi o’n rhestr bostio (rydym hefyd yn cadw copi yn lleol ar gyfrifiadur y swyddfa. Am ragor o wybodaeth, ewch i datganiad Preifatrwydd Mailchimps. Gallwch ddad-danysgrifio o’r eGylchlythyr ar unrhyw adeg y dymunwch drwy glicio ar y botwm dad-danysgrifio sy’n ymddangos ar waelod ein eGylchlythyrau neu drwy gysylltu â ni ar 01646 622228 neu@visitpembrokeshire.com

Drwy ymuno â Darganfod Sir Benfro Cyf, rydych yn tanysgrifio i wasanaeth sy’n cynnwys cysylltu â chi drwy e-bost ynghylch aelodaeth, digwyddiadau i aelodau, newyddion y diwydiant etc. Byddwn yn cadw eich cyfeiriad e-bost yn ein rhestr e-bostio cyhyd â’ch bod chi’n aelod o Darganfod Sir Benfro Cyf, neu tra’ch bod yn dewis tanysgrifio i’r rhestr bostio. Gallwch ddad-danysgrifio neu ail-danysgrifio ar unrhyw adeg.

Prosesu Taliadau – Rydym yn defnyddio darparwr trydydd parti, GoCardless, i reoli ein proses daliadau, ac felly, rydym yn cadw eich enw, cyfeiriad busnes a manylion cyswllt ar GoCardless er mwyn gallu prosesu adnewyddiadau aelodaeth. Mae GoCardless wedi ymrwymo i gydymffurfiaeth GDPR a gellir gweld ei bolisi preifatrwydd newydd yma

Ni fydd Darganfod Sir Benfro Cyf yn cadw copi o’ch manylion cerdyn debyd/credyd

Byddwn yn cadw eich data ar GoCardless cyhyd ag y byddwch yn aelod o Darganfod Sir Benfro Cyf, neu hyd nes eich bod yn gofyn i ni ei dynnu. Fodd bynnag, fel y nodwyd uchod, efallai y byddwn yn cadw ychydig o wybodaeth y tu hwnt i GoCardless, megis anfonebau, yn unol â gofynion CThEM.

Copïau Caled – cedwir unrhyw gopïau caled ar bapur o wybodaeth bersonol yn ddiogel allan o olwg yn ein swyddfa, a gellir cael mynediad ati drwy staff Darganfod Sir Benfro Cyf yn unig.

Cronfa ddata aelodaeth – Caiff hon ei chadw ar ein cyfrifiadur swyddfa’n ddiogel. Rydym yn ystyried unrhyw fusnes yn aelod am hyd at 3 mis ar ôl diwedd eu dyddiad adnewyddu, ac ar ôl hynny, os nad ydych wedi adnewyddu eich aelodaeth, cysylltir â chi i gadarnhau a ydych yn parhau i ddymuno bod yn aelod. Rydym yn cadw cofnod o gyn-aelodau ar y gronfa ddata am gyfnod amhenodol pe byddant yn dymuno ail-ymuno ar unrhyw adeg, a digwyddir hynny’n aml. Gallwch newid / dynnu gwybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch chi yn ôl eich hawliau fel y diffinnir isod.

Tanysgrifwyr Cylchlythyr

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni

Os byddwch yn cofrestru ar gyfer cylchlythyr Darganfod Sir Benfro Cyf, byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i weinyddu eich cyfrif e-bost a darparu’r cynnyrch a gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt gennym ni’n unig.

Byddwn yn anfon newyddion a gwybodaeth y credwn fydd o ddiddordeb i chi o bryd i’w gilydd, yn seiliedig ar eich diddordeb a’ch dewis o ran gwyliau dewisol, neu eich lleoliad daearyddol.

Yn ogystal, os byddwch yn caniatáu i ni gysylltu â chi at ddibenion ymchwil, efallai y byddwch yn cael eich dewis i dderbyn holiadur ymchwil yn ymwneud â thwristiaeth o bryd i’w gilydd, ac mae cwblhau holiadur yr arolwg blynyddol yn wirfoddol.

Yn yr achos hwn, y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol yw eich caniatâd a fynegoch chi drwy ddewis blwch gwirio priodol wrth danysgrifio i’r cylchlythyr.

Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg drwy glicio’r ddolen dad-danysgrifio yn yr e-bost a gewch gennym ni, neu gallwch gysylltu â ni drwy ddefnyddio’r manylion isod.

Am ba hyd fyddwn ni’n cadw eich gwybodaeth?

Bydd y data a ddarperir yn y ffurflen danysgrifio i’r cylchlythyr yn cael ei gadw yng nghronfa ddata’r system bostio dros gyfnod gweithgaredd y wefan, oni bai eich bod yn dewis peidio â derbyn y cylchlythyr, fydd yn arwain at ddileu’r data o’r gronfa ddata.

Pob Defnyddiwr

Eich hawliau

O dan DPA 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn, a gallwch eu defnyddio mewn perthynas â’r wybodaeth rydym yn ei dal amdanoch chi. Hawliau’r unigolyn yw:

  • hawl i gael mynediad at gopi o’r wybodaeth sydd o fewn eu data personol;
  • hawl i wrthod prosesu sy’n debygol o achosi, neu sydd yn achosi, difrod neu drallod;
  • hawl i atal prosesu ar gyfer marchnata uniongyrchol;
  • hawl i wrthod penderfyniadau’n cael eu gwneud drwy ddull awtomataidd;
  • hawl mewn rhai amgylchiadau i gywiro, rhwystro, dileu neu ddifa data personol anghywir; a
  • hawl i hawlio iawndal ar gyfer difrod a achoswyd yn sgil tramgwyddo’r Ddeddf.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar yr hawliau yma

Cael mynediad at wybodaeth

O dan DPA 2018, mae gennych hawl i weld a / neu gywiro unrhyw ddata sy’n cael ei gadw amdanoch chi. Cyflawnir unrhyw gais o’r fath o fewn 30 diwrnod, gyda’r cyfan am ddim. Bydd y wybodaeth a ddarperir i chi mewn fformat clir a darllenadwy.

Cwynion ynghylch ein gwaith o brosesu eich data

Os ydych chi’n credu nad ydym ni wedi dilyn ein polisi preifatrwydd mewn unrhyw ffordd, byddwn yn gwneud ein gorau i’ch helpu chi i adfer y mater – Cysylltwch â ni ar 01646 622228 neu gyda gweinyddiaeth@visitpembrokeshire.com

Yn ogystal, gallwch gyflwyno cwyn gyda’r asiantaeth diogelu data perthnasol yn y Deyrnas Unedig, sef  ICO –  Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Newidiadau i’n Polisi Preifatrwydd

Bydd unrhyw newidiadau y byddwn yn eu gwneud i’n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu postio ar y dudalen hon a, lle bo’n briodol, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost. Cadwch olwg ar y dudalen hon i weld unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i’n polisi preifatrwydd. Diweddarwyd y polisi hwn ar 21/12/2020.

Cysylltu â Ni

Cyfeiriad: Darganfod Sir Benfro Cyf, Ystafell 4, Swyddfeydd Llanion Cove, Bro Cleddau, Doc Penfro, Sir Benfro SA72 6UJ

Ffôn: 01646 622228

E-bost: gweinyddiaeth@visitpembrokeshire.com