Trefi a Phentrefi Sir Benfro
Does dim trefi mawr yn Sir Benfro mewn gwirionedd, ond mae gennym ddinas. Ychydig dros 1400 o bobl sy’n byw yn ninas Tyddewi, sy’n golygu mai dyma ddinas leiaf Prydain.
Mae gan drefi a phentrefi Sir Benfro gysylltiad agos â’r môr sy’n amgylchynu’r sir ar dair ochr, ac yn wir bu’r rhan fwyaf o’r cymunedau yn borthladdoedd ar gyfer rhyw nwyddau neu’i gilydd, rywbryd yn eu gorffennol.
Bu Trefdraeth, sy’n dref farchnad fechan a hardd ar lan Afon Nyfer, yn borthladd penwaig am gyfnod yn y gorffennol a dechreuodd pentref bychan, bach Abercastell ei hanes fel harbwr yn allforio llechi a grawn.
Mae Dinbych-y-pysgod yn dref glan môr gaerog hyfryd. Y Normaniaid oedd yma’n wreiddiol a daeth Dinbych-y-pysgod yn dref gaerog yn ystod y 13eg ganrif.
Mae cymunedau Sir Benfro’n fywiog; yn llawn ysbryd cymunedol a meddyliau creadigol sy’n defnyddio tirwedd drawiadol Sir Benfro fel ysbrydoliaeth ar gyfer eu gweithiau celf.
Er enghraifft, mae tref farchnad fechan Arberth, yng nghanol Sir Benfr, wedi dod yn gyrchfan siopa ar gyfer unrhyw beth sy’n cael ei greu yn Sir Benfro; ac mae gwneuthurwyr paentiadau, crochenwaith, cerfluniau a gemwaith i gyd i’w cael yn y dref liwgar hon.
Defnyddiwch y map yma i ddarganfod trefi a phentrefi Sir Benfro.
Explore by Map
Use the map below to discover your perfect Pembrokeshire Town
- Aber Bach
- Aberdaugleddau
- Abereiddi
- Abergwaun a Wdig
- Aberllydan
- Amroth
- Angle
- Arberth
- Bosherston
- Burton, Llangwm a Hook
- Caeriw
- Cenarth
- Cilgerran
- Cilgeti a Begeli
- Clunderwen
- Crymych a Boncath
- Cwm Gwaun
- Dinas
- Dinbych-y-pysgod a Phenalun
- Doc Penfro
- Eglwyswrw
- Freshwater East
- Hwlffordd
- Llandudoch
- Llandyfái
- Llawhaden
- Llys y Frân
- Lydstep
- Maenclochog a Rosebush
- Maenorbŷr
- Marloes a Dale
- Martlerwy, Landshipping a Lawrenni
- Mathri
- Nanhyfer
- Neyland
- Niwgwl a Roch
- Nolton a Nolton Haven
- Pen-caer
- Penfro
- Penrhyn Castell Martin
- Porthgain
- Saundersfoot
- Solfach
- St Florence
- Tre-fin
- Trefdraeth
- Trefgarn a Chas-blaidd
- Trewyddel
- Tyddewi
- Wiseman's Bridge a Stepaside
- Ystangbwll