Y gaeaf yn Sir Benfro

Cerdded, bythynnod clyd, a thanau cynnes

Gwyntoedd cryfion a thafarndai clyd

Dewch i Sir Benfro yn y gaeaf

Mae hi’n olygfa a hanner. Tonnau enfawr stormydd gaeafol yr Iwerydd yn anelu’n syth am arfordir Sir Benfro.

Wrth sefyll ar y clogwyn uwchlaw’r môr, ar lwybr yr arfordir, gallwch deimlo’r tonnau’n tasgu ar y creigiau islaw ac fe glywch sŵn y rhai sy’n gwylio wrth iddynt rhyfeddu ar eu nerth.  Mae hi fel noson Guto Ffowc.

O dro i dro daw’r stormyd ag eira hyd yn oed, gan drawsnewid Sir Benfro. Traethau dan eira, mae’n edrych yn od! Gwisgwch eich dillad cynnes, gafaelwch mewn sled ac anelwch am y bryn agosaf – mae digon ohonynt yma! Efallai na fydd yn para’n hir, ond does dim byd tebyg i eira am roi gwên ar wynebau, a gwneud bodiau traed yn oer fel rhew! 

Mae’r gaeaf yn dawel yn Sir Benfro, ac mae’r seibiant cyn ac ar ôl y Nadolig yn gyfnod gwych i gael bargen. Mae cynigion arbennig i’w cael dros y gaeaf yn y bythynnod clyd, gyda’u tannau coed, a’r gwestai ar glogwyni uwchlaw’r môr 

Gŵyl i’r teulu yw’r Nadolig yn Sir Benfro, ac mae Nos Galan yn gyfle i ddathlu gyda ffrindiau. Mae digonedd o dafarndai a bwytai ar agor ar gyfer prydau Nadolig a Chalan. Bydd pawb wrth eu boddau, a dim angen golchi’r llestri ychwaith! Cofiwch archebu’n gynnar.  

Mae’r gaeaf yn gyfle i fyfyrio ar flwyddyn brysur, ac i edrych ymlaen at eich antur nesaf yn Sir Benfro. 

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

"Peidiwch ag ofni’r gaeaf: mwynhewch y tywydd oer, stormus, gwisgwch eich dillad cynhesaf a wynebwch yr elfennau "

Alf Alderson, ar gyfer,