Darganfod Sir Benfro
Mae Sir Benfro’n arbennig- yn arbennig iawn
Pam? Oherwydd amrywiaeth anhygoel y golygfeydd. Mae’r clogwyni tal sy’n codi’n serth o’r môr yn gwbl wahanol i fryniau a mynyddoedd y Preseli yn y gogledd.
O’r rhostiroedd hyn, sy’n fyw o hanes ac o fywyd gwyllt, daeth y cerrig gleision sy’n rhan o Gôr y Cewri. Yn llifo trwy galon y Sir, mae Moryd Daugleddau a’i rhwydwaith o gilfachau a nentydd tawel sy’n ferw o adar ar lanw isel.
Ac wrth gwrs, mae Llwybr Arfordir Sir Benfro, sy’n enwog yn rhyngwladol, yn crwydro’i ffordd drwy’r holl dirweddau yma, gan gynnig golygfeydd, bywyd gwyllt, a phrofiadau newydd o bob math tros ei 186 milltir. Daw’r holl dirweddau yma ynghyd fel Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, yr unig Barc Cenedlaethol arfordirol ym Mhrydain.
Mae trefi a phentrefi Sir Benfro’n amrywiol iawn hefyd. Trefi arfordirol fel Dinbych-y-pysgod ac Abergwaun yn nythu ar glogwyni uchel uwchlaw’r môr a phentrefi bychain fel Porthgain, gyda’i borthladd a’i hanes o wneud brics.
Mae Arberth yn baradwys i’r rhai sy’n hoff o siopa, gyda’i siopau bach annibynnol sy’n gwerthu gwaith artistiaid a chrefftwyr lleol sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Benfro.
A phan fyddwch yn ymweld â Sir Benfro, peidiwch ag anghofio crwydro strydoedd Tyddewi, dinas leiaf y DU. Dim ond 1600 sy’n byw yn y ddinas fechan hardd yma, ac er na wnewch chi sylwi’n syth ar yr eglwys gadeiriol a roddodd y statws dinas iddi, o’i gweld, byddwch yn rhyfeddu at ei mawredd.