Yr unig Barc Cenedlaethol arfordirol ym Mhrydain
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Ble mae dechrau? Mae’n rhaid bod unrhyw ardal a ddynodir yn Barc Cenedlaethol yn arbennig.
Ond roedd i’r ardal gael ei dynodi’n unig Barc Cenedlaethol arfordirol Prydain, yn 1952, yn arbennig iawn – a bydd trip i arfordir Sir Benfro yn dangos pam. Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn 612 cilomedr sgwâr, o Landudoch yn y gogledd i Amroth yn y de, ac yn cynnwys mynyddoedd y Preseli a Moryd Daugleddau.
Ond beth sydd mor rhyfeddol am yr ardal? Yn ne’r sir, mae’r clogwyni calchfaen uchel yn plymio’n serth i donnau’r môr mawr ynghyd â thraethau mawr tywodlyd fel Amroth, Dinbych-y-pysgod, a Freshwater West.
Wrth deithio tua’r gogledd, mae’r tir yn fwy bryniog a garw, gyda phentiroedd folcanig a dyffrynnoedd o Oes yr Iâ, ond yr un mor drawiadol. Mae’r traethau’n llai ac yn dawelach ar y cyfan, fel Abercastell, Cwm-yr-Eglwys neu Borthsele.
Y ffordd orau o gael blas go iawn ar y golygfeydd anhygoel yma yw gwisgo’ch esgidiau cerdded, pacio’ch cinio, a mynd i grwydro hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro. Mae’n ymestyn dros 186 milltir, ac fe gewch olygfeydd godidog yn ogystal â chyfle i weld y planhigion, yr anifeiliaid, a’r adar sy’n byw yn y cynefin gwarchodedig yma.
Ac nid ni yn unig sy’n brolio, dewisodd National Geographic arfordir Sir Benfro fel yr ail gyrchfan arfordirol orau yn y BYD! Clod yn wir.