O barciau gwyliau i leiniau syml
Gwersylla a charafanio yn Sir Benfro
Rydych yn siwr o gael maes carafanau neu wersyll fydd yn eich siwtio yn Sir Benfro, waeth beth fo’ch cyllideb na’ch chwaeth.
O barciau gwyliau mawr ardal Dinbych-y-pysgod, gyda’u pyllau nofio a’u hadloniant gyda’r hwyr, i safleoedd mwy anghysbell a thawel, gyda dim ond yr adar yn gwmni i chi.
Os oes well gennych anturiaethau dan ganfas, mae digonedd o wersylloedd yn Sir Benfro, a llawer ohonynt gyda golygfeydd o’r môr. Dychmygwch ddihuno gyda chriw o ffrindiau a rhannu paned gynta’r dydd yn syllu dros y môr mawr.
Peidiwch â pharcio eich cerbyd gwersylla yn unrhyw fan heblaw mewn maes gwersylla dynodedig – mae cerbydau gwersylla sy’n parcio mewn mannau diawdurdod yn peri straen ar wasanaethau a seilwaith lleol, ac fe allant ddifrodi cynefinoedd naturiol. Bydd camau gorfodi’n dilyn parcio diawdurdod.