Tywod, tywod a mwy o dywod

Beth sydd well na diwrnod ar y traeth

Traethau yn Sir Benfro

Traethau yn Sir Benfro

Erwau o dywod a thwyni, fel Freshwater West ac Aberllydan, neu draeth bychan, creigiog, anghysbell, fel Cwm-yr-Eglwys, sy’n wych ar gyfer archwilio pyllau glan môr?

Dan warchodaeth statws Parc Cenedlaethol, mae dyfroedd a thraethau Sir Benfro ymysg y glanaf, ac mae ganddynt sawl gwobr sy’n cydnabod hynny; Baneri Glas, Arfordir Glas a gwobrau Glan Môr! Dyna pam bod traethau Sir Benfro ymysg y gorau yng Nghymru.

Gwybodaeth am wobrau glan môr

Pan fyddwch chi’n mentro tua’r arfordir, cofiwch wirio amseroedd y llanw yn Sir Benfro. Gall eich traeth mawr, llydan fod wedi diflannu dan ddŵr y môr, neu gall y llanw fod wedi dod i mewn y tu ôl i chi gan eich dal heb ffordd yn ôl i dir sych!

Defnyddiwch y map yma er mwyn dod o hyd i’ch traeth perffaith yn Sir Benfro.

Beach Awards Information

Baner Las

Bwriad y rhaglen yma yw gwella ymwybyddiaeth amgylcheddol a hyrwyddo ymddygiad amgylcheddol da ymhlith ymwelwyr a phoblogaethau lleol, yn ogystal â hybu arfer gorau ymysg staff rheoli traethau a marinas. Mae 46 o wledydd y byd yn cydnabod gwobr y Faner Las

Arfordir Glas

Mae’r Wobr Arfordir Glas yn cydnabod ansawdd dŵr rhagorol, safonau amgylcheddol uchel, a rheolaeth sensitif o draethau gwledig. Dyfarnir y wobr i draethau sydd nid yn unig ag ansawdd dŵr EC arbennig ond sydd hefyd ag amgylchedd naturiol sydd heb ei ddifetha. Golyga hyn nad oes ganddynt, ar y cyfan, yr un cyfleusterau a rheolaeth drylwyr â thraethau gwyliau trefol, mwy traddodiadol. O ystyried natur y wobr, cofiwch na fyddwch yn gweld baner yn chwifio, ond dylech weld arwydd bach yn rhywle.

Gwobrau Glan Môr

Dyfarnir y Wobr Glan Môr yng Nghymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon. Caiff y gwobrau eu rhannu’n ddau ddosbarth – Traethau Gwyliau a Thraethau Gwledig – er mwyn adlewyrchu’r amrywiaeth sydd i’n traethau. Bydd traeth gwyliau’n denu llawer o ymwelwyr ac yn darparu cyfleusterau da megis toiledau, mynediad i bobl anabl, meysydd parcio, a chaffis. Bydd gan lawer ohonynt waharddiadau ar gŵn yn ystod y tymor nofio.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

"Mae’n ardal mor hardd a pherffaith i fynd ar wyliau, ac rydw i wedi bod yn dod yma bob blwyddyn ers pan oeddwn i’n blentyn. Byddwn yn sicr yn ei argymell fel lle gwych ar gyfer gwyliau "

Louise, ar Facebook