Tirwedd gwbl wahanol

A hanes o’r oes a fu

Rhostir gwyllt a hen hen hanes

Mynyddoedd y Preseli

Pa enw bynnag sydd well gennych chi, mae Bryniau neu Fynyddoedd y Preseli yng ngogledd Sir Benfro yn esgyn hyd at 536m, ac yn wrthgyferbyniad llwyr i wastadeddau’r de.

Mae’r rhosydd, y gweunydd, a’r glaswelltir yma’n gynefin i bob math o blanhigion a phryfed, gan gynnwys rhai sy’n eithaf prin.

Mae’r bryniau’n lle delfrydol ar gyfer cerdded oddi wrth yr arfordir. Ac os ydych eisiau gweld golygfeydd gorau Sir Benfro, rhowch eich esgidiau cryfion am eich traed a cherddwch y daith fer i gopa Foel Eryr. Ar ddiwrnod clir cewch olygfa 360 gradd yr holl ffordd i Eryri a thros y môr i Iwerddon.

Dydy bryniau Preseli ddim yn uchel – dim ond 536 metr ar eu huchaf – ond er hynny mae hon yn ardal arw, llawn drama.

Kevin Rushby, yn The Guardian

Os am daith bellach, rhowch gynnig ar y Heol Aur ar hyd asgwrn cefn Bryniau Preseli. Yn ôl y sôn, mae’r llwybr hynafol 8 milltir hwn yn dyddio o’r oes Neolithig – 5000 o flynyddoedd yn ôl, a dyma’r prif lwybr rhwng Prydain ac Iwerddon yn yr oes a fu.

Mae olion cynhanes yn britho’r bryniau, gyda chromlechi o’r Oes Efydd a chaerau Oes yr Haearn. Cofiwch fynd i ben Foel Drygarn. Mae olion y muriau cerrig a’r ffosydd yn amgylchynu’r copa gan ychwanegu at y creigiau a’r clogwyni naturiol sydd o gwmpas.

Prin yw’r boblogaeth yn yr ardal yma, ond mae ambell i bentref yn y bryniau. Ym Mhontfaen, yng Nghwm Gwaun, mae tafarn enwog Bessie, lle mae’r cwrw’n dal i gael ei weini mewn jwg yn syth o’r gasgen, ac mae’r dafarn sinc gymunedol enwog yn Rosebush.