Wrth i’r dyddiau ddechrau ymestyn
Dewch i Sir Benfro yn y gwanwyn
Y gwanwyn yw’r amser perffaith i gerdded llwybr yr arfordir a gweld Sir Benfro’n deffro o’i thrwmgwsg.
Cloddiau moel y gaeaf yn ferw o adar mân unwaith eto a’u cân yn deffro’r fro. Blodau’n ymestyn am wres cynta’r haul, a’u lliwiau llachar yn ddigon o sioe. Am olygfa!
Mae’r adar mudol yn dychwelyd i ynysoedd Sir Benfro ar ôl eu teithiau maith. Trip ar gwch yw’r ffordd orau o weld, heb sôn am glywed ac arogli, yr holl adar!
Yn ystod y gwanwyn gallwch fachu bargen o ran llety hefyd, a bydd sawl cynnig arbennig ar gael i’ch deffro chithau o’ch trwmgwsg.
Byddai gwyliau bach yn Sir Benfro yn ystod y gwanwyn yn gwneud byd o les ar ôl gaeaf hir.