Sir Benfro yw’r lle perffaith ar gyfer gwyliau
Gwyliau a gwyliau byr yn Sir Benfro
Beth sydd mor arbennig am y sir? Dyma’r unig le yn y DU sydd â Pharc Cenedlaethol arfordirol, sy’n golygu bod dyfroedd ac arfordir Sir Benfro yn dal i fod mor naturiol ag erioed.
Dyna sy’n gwneud hon yn ardal berffaith ar gyfer gwyliau egnïol: mae’r dyfroedd glân yn ardderchog ar gyfer caiacio, a thonnau gwylltion yr Iwerydd yn ei wneud yn lle arbennig i’r rhai sy’n hoff o syrffio neu arfordira.
Mae digonedd o ddewis o draethau hefyd, gyda thraethau baner las fel Porth Mawr a Dinbych-y-pysgod, gyda’u cyfleusterau cyfagos, yn berffaith ar gyfer gwyliau gyda’r teulu. Ac os am wyliau gyda’r ci, mae traethau tawelach fel Traeth Llyfn, Wiseman’s Bridge, a Musselwick yn berffaith yn ystod y gwanwyn neu’r hydref
Os oes arnoch chi awydd diwrnod allan tra fyddwch chi ar eich gwyliau yn Sir Benfro, mae digonedd o ddewis. Os am atyniadau i’r teulu, gallwch fynd i barciau antur neu barciau bywyd gwyllt, gwylio brwydr ffug mewn castell, neu fynd ar drip cwch i ynysoedd Sir Benfro i chwilio am ddolffiniaid, morloi, a hyd yn oed forfilod!
A beth am ystyried gwyliau ‘gwyrdd’ yn Sir Benfro, a thrwy hynny gyfrannu at gadw’r Parc Cenedlaethol ar ei orau? Does dim angen cyfaddawdu o ran ansawdd, steil, na moethusrwydd ar wyliau cynaliadwy. Bydd y cabanau eco pum seren a’r gwasanaeth bysiau arfordirol yn sicrhau eich bod yn mwynhau pob moethusrwydd ac yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar yr amgylchedd wrth i chi deithio o gwmpas yr ardal.