Afonydd a nentydd

Encil tawel, yn berwi o fywyd gwyllt

Dyfrffordd gudd Sir Benfro

Moryd Daugleddau

Yng nghanol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, daw pedair afon, Cleddau Wen, Cleddau Ddu, Cresswell a Chaeriw, ynghyd ym moryd Daugleddau

Mae pen uchaf moryd Daugleddau’n arbennig o drawiadol, gyda’i gymysgedd o lechweddau coediog, serth a chaeau amaethyddol.

Prin y daw gweddill y byd i darfu ar yr ardal dawel hon, ac mae caiac neu ganŵ’n ffordd ardderchog o grwydro’r byd bach cudd. Gyda’i dyfroedd cysgodol hyfryd, beth allai fod yn well na rhwyfo’ch caiac i lawr rhyw gilfach gefn, gyda dim ond sŵn yr adar a’r dŵr yn gwmni i chi?

Mae’r cilfachau a’r nentydd, ynghyd â blaendraeth y prif sianel, yn gynefin sydd o bwysigrwydd cenedlaethol i’r miloedd o rydyddion ac adar y gwlyptir sy’n gaeafu ac yn bwydo ar y fflatiau llaid ar lanw isel, ac sy’n clwydo ar y cloddiau a’r gors gerllaw ar lanw uchel.

Gallwch grwydro’r moryd cyfan, ond bydd angen map Arolwg Ordnans arnoch os ydych am ddilyn llwybr Landsker sy’n 59 milltir o hyd. Gellir hefyd cerdded rhannau byr o’r moryd, gan gynnwys llwybrau o Lawrenni a Landshipping.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

"Mae’n ardal mor hardd a pherffaith i fynd ar wyliau, ac rydw i wedi bod yn dod yma bob blwyddyn ers pan oeddwn i’n blentyn. Byddwn yn sicr yn ei argymell fel lle gwych ar gyfer gwyliau "

Louise, ar Facebook