Beicio yn Sir Benfro
Does dim ffordd well o grwydro Sir Benfro nac ar ddwy olwyn (gyda stabilisers os oes angen), gyda ffordd a golygfeydd trawiadol o’ch blaen.
Dyna un o fanteision beicio yn Sir Benfro, wyddoch chi byth beth sydd rownd y gornel nesaf. Mae gan y sir amrywiaeth mor eang o lwybrau beicio hardd a diddorol a fydd yn apelio at bob lefel ffitrwydd.
Mae digonedd o ddewis i feicwyr sydd ar daith, gyda Lôn Geltaidd – Gorllewin a Lôn Teifi Sustrans. O Abergwaun, ewch tua’r de-orllewin ac mae’r llwybr yn cofleidio arfordir Sir Benfro gan ddatgelu traethau eang a chlogwyni anhygoel rownd bob tro. Trowch am y gogledd-ddwyrain neu’r de-ddwyrain ac i ffwrdd â chi am y bryniau a’r dyffrynnoedd gyda’u tirweddau gwyllt a’u pentrefi bychain hudolus, anghysbell lle mae traddodiadau wedi’u gwreiddio’n ddwfn ers cenedlaethau. Dewiswch gyfeiriad a’i gysylltu ag un neu ragor o’n llwybrau hamdden a theuluol lleol, a gallwch grwydro Sir Benfro fel y mynnwch.
Er bod ffyrdd Sir Benfro’n dawel, weithiau mae’n well dewis llwybrau di-draffig neu rai sydd â thraffig ysgafn iawn sy’n addas i’r teulu, ar gyfer beicwyr ifanc ‘ansicr’. Mae dewis o’r rhain ar gael yn ein cyfres o lwybrau hamdden a theuluol.
Ydych chi’n hoffi ychydig o fwd wrth feicio? Byddwch wrth eich bodd ar unrhyw un o’n llwybrau beicio mynydd sydd mewn lleoliadau ledled y sir. Mae ein llwybrau beicio yn werth eu gweld ac yn addas ar gyfer bob oedran, gallu a diddordeb – i ble fyddwch chi’n beicio heddiw?
Canlyniadau chwilio
117 Results / Page 1 of 10
Gweld ar fap
Discover Walking Pembrokeshire
We offer two walking approaches: 1. Guided Walks and tours: we will create perfect walk or tours to suit your interests and fitness levels and then guide you all the way round! 2. Walking Skills: Or, if you would prefer, to ‘do-it-yourself’ we offer walking skill packages to give you the confidence to safely and[...]