Cestyll a threftadaeth

Yn darlunio hanes lliwgar ac amrywiol Sir Benfro

Cestyll, mannau hanesyddol a safleoedd hynafol

Cestyll a threftadaeth yn Sir Benfro

Mae tirwedd Sir Benfro’n frith o bob math o bethau, o feddrodau cynhanesyddol dirgel i gestyll canoloesol a chysegrfeydd crefyddol Celtaidd.

Mae’n debyg mai Castell Penfro a Chastell Caeriw yw cestyll gwychaf Sir Benfro, ac mai Castell Cilgerran, fry uwchben Ceunant Teifi, sydd yn y lleoliad mwyaf dramatig.

Llys esgobion amddifynnol yn hytrach castell go iawn oedd Castell Llanhuadain, sydd â golygfeydd panoramig o’i fylchfuriau. Croes rhwng castell canoloesol a maenordy amddiffynnol yw Castell Pictwn a adeiladwyd gan Syr John Wogan yn y 13eg ganrif, ac mae ei ddisgynyddion yn byw yno hyd heddiw.

Mae Castell Maenorbŷr yn breswylfa farwnol Normanaidd sy’n edrych lawr dros y traeth. Dywedodd Gerallt Gymro mai dyma’r ‘lle mwyaf dymunol yng Nghymru’.

Mae Sir Benfro’n llawn dop o hanes sydd yr un mor rhyfeddol â’i golygfeydd

Sally Hales, i gylchgrawn Britain

Roedd Llys yr Esgob, Tyddewi, yn gartref i Esgobion Tyddewi a adeiladwyd yn wreiddiol fel preswylfa breifat. Ond, yn ddiweddarach yn y 13eg ganrif, daeth yn adeilad llawer crandiach ar gyfer cynnal digwyddiadau moethus. Adeiladwyd Llys Esgob Llandyfái fel encilfa i’r esgobion canoloesol hynny a geisiai gysur rhag straen dyddiol yr Eglwys a’r Wladwriaeth.

Mae Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd yn Ninbych-y-pysgod, sydd wedi’i adfer gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn ail-greu cartref masnachwyr cyfoethog oedd yn masnachu o Ddinbych-y-pysgod yn ystod y 1500au.

Un lle arall sy’n rhaid i chi ymweld ag ef yw Eglwys Sant Gofan ger Bosherston, sef capel bychan a adeiladwyd yn y  clogwyn yn y 13eg ganrif ac y gellir ei gyrraedd drwy risiau o’r clogwyn uwchben yn unig. Pentre Ifan, yw safle cynhanesyddol mwyaf eiconig Cymru. Mae’r siambr gladdu Neolithig, sydd â maen capan anferth ar ei phen, wedi’i gwneud o’r un cerrig â chylch mewnol Côr y Cewri.