Gwledd syfrdanol o fywyd gwyllt
Dewch i Sir Benfro yn yr hydref
Mae’n digwydd yn sydyn. Rydych yn deffro un bore ac am y tro cyntaf mae rhyw ias yn y gwynt a’r dail yn dechrau troi o wyrdd i frown cynnes.
Mae’r hydref ar droed, a’r bywyd gwyllt yn brysur gyda’u paratoadau olaf ar gyfer y gaeaf. Mis Medi yw’r amser gorau ar gyfer gwylio’r morloi yn magu eu lloi gwynion ar y traethau anghysbell.
Mae llwybr yr arfordir yn lle da i wylio’r morloi ifanc. Ond cofiwch ddod â binocwlars! Well i chi beidio â mynd yn rhy agos – byddwch yn dychryn y lloi, a bydd y mamau ar eich hôl wedyn yn siwr!
Erbyn hyn mae’r traethau’n wag, y teuluoedd wedi hen ddychwelyd i’w bywydau prysur, a dim ond chi sydd ar ôl. Perffaith os ydych am fynd ar wyliau gyda’ch ci. Ar ôl bore diog, beth am fynd am dro hydrefol drwy’r dail cyn mwynhau cinio dydd Sul neu siocled poeth o flaen tanllwyth o dân.
Dyma gyfle i chi ymlacio fel fynnoch chi, a theimlo cynhesrwydd olaf haul yr haf cyn oerni’r gaeaf.
Mae’r hydref yn adeg wych i ymweld â Sir Benfro.