Cerdded yn Sir Benfro
Ond ble mae cychwyn? Ar afordir Sir Benfro, yn bendant; sy’n fwyaf adnabyddus am ei lwybr sy’n troelli o gwmpas baeau trawiadol a phentiroedd rhyfeddol yr unig Barc Cenedlaethol arfordirol ym Mhrydain.
Mae’r daith 186 milltir neu 299km yn waith caled os ydych am ei chwblhau o’r dechrau i’r diwedd, a bydd angen 10 i 15 diwrnod arnoch. Ond mae’r rhan fwyaf yn cerdded rhan ohoni ar y tro, gan addo bob tro y byddan nhw’n dychwelyd i gwblhau gweddill y llwybr.
Mae cyflwyno’r gwasanaethau bws arfordirol wedi’i gwneud yn haws cerdded llwybr yr arfordir heb fod angen aildroedio’r un rhan neu fynd â dau gar.