Canolfannau gweithgareddau
Mae canolfannau gweithgareddau, gyda’u staff o arbenigwyr antur cymwysedig, yn ffordd berffaith o gael blas ar nifer o weithgareddau, boed mewn diwrnod, penwythnos neu wyliau llawn antur.
P’un ai’ch bod yn rhoi cynnig ar weithgaredd newydd neu’n ceisio gwella’ch sgiliau, mae canolfannau gweithgareddau’n cynnig cymysgedd wych o ysbrydoliaeth ac anogaeth.
Mae diwrnodau neu hanner diwrnodau antur ar gael i unigolion, teuluoedd a grwpiau, ac mae rhai canolfannau’n cynnig y dewis o aros ar y safle. Fel arfer, mae bwyd cartref blasus ar gael, a gallwch dreulio’r nosweithiau o flaen tanllwyth o dân yn hel atgofion am y dydd.
Mae canolfannau gweithgareddau yn llefydd gwych i ddechrau’ch perthynas ag awyr iach Sir Benfro.