Caiacio môr yn Sir Benfro
Mae caiacio yn Sir Benfro yn ffordd anhygoel o weld yr arfordir rhyfeddol, ei adar a’i fywyd môr.
Mae 220 milltir o arfordir amrywiol Sir Benfro’n rhoi cyfle i badlwyr o bob gallu grwydro unig Barc Cenedlaethol arfordirol Prydain ar eu liwt eu hunain.
Cymrwch seibiant bach ar draeth diarffordd, drifftiwch heibio i forloi a llamhidyddion, crwydrwch ogofâu dirgel neu chwaraewch ar donnau dŵr glân rhai o draethau gorau’r DU.
Gall padlwyr profiadol berffeithio’u sgiliau gydag un o’r nifer o dywyswyr profiadol a chymwysedig, naill ai yn nyfroedd gwyllt neu lonydd Sir Benfro. Yn ‘The Bitches’ ger Tyddewi mae un o lifoedd llanw cyflymaf y DU, sy’n cyrraedd hyd at 18 not wrth i’r llanw lifo tua’r gogledd, gan greu trobyllau, trolifau a chyfresi mawr o donnau. Neu rhowch gynnig ar sesiwn flasu hanner diwrnod mewn bae cysgodol, sy’n berffaith ar gyfer grwpiau teuluol.