Ffrindiau’n mynd i'r môr

Beth am badlfyrddio?

Pedair merch yn eu harddegau, un brawd, byrddau syrffio, sawl pâr o goesau fel jeli, a’r môr mawr. Y canlyniad? Gwell na’r disgwyl!

Dyma ofyn i bedair merch gymryd hoe o adolygu ar gyfer eu harholiadau TGAU er mwyn ymlacio ychydig a rhoi cynnig ar badlfyrddio am y tro cyntaf erioed.

Yr Anturiaethwyr: Ella a’i ffrindiau, Charlotte, Megan, Lucy a’i brawd Iolo.

Yr her: I arnofio (mae’n anoddach na’r disgwyl!) a phadlo o gwmpas harbwr Cwm Abergwaun, dan arweiniad Libby o Board Games Surfing – a hyn i gyd, yn achos Megan, heb wlychu ei gwallt!

Libby’n egluro’r pethau sylfaenol

Y Farn: Ar ôl sgwrs gan Libby am yr hanfodion, gyda’r merched yn gwneud eu gorau glas i wrando’n astud, ac ar ôl rhai munudau petrus o geisio dringo ar eu pengliniau ar y byrddau, buan iawn y daeth y merched iddi!

Mae padlfyrddio ar eich traed yn fwy poblogaidd nac erioed, yn bennaf oherwydd ei fod yn addas i bobl o bob oed a gallu, ac yn weithgaredd da ar gyfer y teulu cyfan. Ac er bod angen cryfder i’w wneud yn dda, dydy o ddim mor anodd â syrffio.

Ar ddiwrnod tawel, gallwch badlfyrddio’n reit hapus i draethau ac ogofâu anghysbell arfordir Sir Benfro na fyddech yn gallu eu cyrraedd fel arall.

Ond a wnaeth y criw lwyddo i anghofio am yr arholiadau am ychydig?

“Wnes i ddim meddwl am yr arholiadau o gwbl tra’r oeddwn i ar y dŵr- roedd yn ffordd wych o anghofio amdanynt am ychydig! Rydyn ni i gyd wedi cytuno i fynd i badlfyrddio eto yn ystod yr haf, ac i fynd i syrffio ar draeth Niwgwl. Wedi’r cyfan, waeth i ni wneud y gorau o’n 11 wythnos o wyliau haf!”

Pob lwc gyda’r arholiadau ferched – rydych yn siŵr o lwyddo!

Mae Board Games Surfing yn cynnal sesiynau padlfyrddio yn Abergwaun yn ogystal â lleoliadau eraill ar arfordir Penfro, trwy gydol y flwyddyn ac yn darparu’r holl gyfarpar a dillad angenrheidiol.

Eisiau rhoi cynnig ar badlfyrddio ar eich traed yn ystod yr haf? Edrychwch ar ein rhestr o ddarparwyr padlfyrddio er mwyn canfod hyfforddwyr cymwys yn Sir Benfro.