Mae’r dyfroedd maethlon yn lle perffaith ar gyfer bwydo a magu
Gwylio morfilod a dolffiniaid yn Sir Benfro
Mae’r dyfroedd dyfnion oddi ar Sir Benfro, neu’r Celtic Deep, yn fan perffaith i weld morfiligion: morfilod, dolffiniaid a llamhidyddion.
Mae’r dyfroedd maethlon sy’n llifo o Fôr Iwerydd yn creu ecosystem gynhyrchiol sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Dyma’r lle perffaith i’r dros gant o ddolffiniaid trwyn potel preswyl sy’n byw’n barhaol ym Mae Ceredigion, oddi ar arfordir Gogledd Sir Benfro, fwydo a magu.
Yn ystod misoedd yr haf, weithiau gellir gweld cannoedd o ddolffiniaid sy’n ymweld â’r ardal, nifer ohonynt â dolffiniaid bach ifanc iawn.
Yn ogystal â’r dolffiniaid cyffredin a thrwyn potel, os fyddwch chi’n lwcus iawn efallai y gwelwch chi forfilod pigfain, morfilod asgellog sei, morfilod asgellog llwyd, orca, dolffiniaid Risso a heulgwn. Yn ôl y sôn, gwelwyd morfil glas a morgi mawr gwyn yma hefyd!
Sut i’w gweld
Gallwch weld llamhidyddion o’r lan rhwng Poppit a Strwmbwl a dolffiniaid rhwng Poppit ac Abergwaun. Weithiau maen nhw’n dod i Harbwr Abergwaun a Bae Trefdraeth.
Mae’r Sea Trust, adran forol Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gorllewin Cymru, yn cynnal sesiynau gwylio llamhidyddion yn gyson yn y safle gwylio yn Strwmbwl. Maent hefyd yn gwneud arolygon ar y fferi Stena rhwng Abergwaun a Rosslare.
Yr unig ffordd i weld morfil yw mynd ar un o’r teithiau cwch arbenigol sy’n mynd â chi ymhell allan i’r môr. Croeswch bopeth, does dim sicrwydd, ond efallai y byddwch yn ddigon ffodus i weld un o’r creaduriaid mawreddog hyn.
Mae dolffiniaid yn haws i’w gweld gan eu bod yn fusneslyd ac fel arfer yn dod i chwilio amdanoch chi. Mae heidiau o hyd at 500 yn gyffredin a phan fyddan nhw’n dewis dilyn eich cwch chi, mae’n bosibl y byddan nhw fodfeddi’n unig oddi wrthoch chi. Anhygoel!
Trefnwch docyn ar gyfer profiad na fyddwch chi byth yn ei anghofio!