Freshwater East

Mae pentref Freshwater East ger bae cysgodol i’r de o Landyfái yn ne-orllewin Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae Gwibfws yr Arfordir, gwasanaeth bws arfordirol 387/388, yn cysylltu Freshwater East â Phenfro a Doc Penfro, a’r gorsafoedd rheilffordd yn y ddwy dref hon.

Mae hanes Freshwater East yn dyddio’n ôl i’r Oes Haearn, ac mae olion caer yn East Cliff.

Yn ystod y 18fed ganrif byddai llongau’n galw yn Freshwater East i godi dŵr, ac roedd y lle hefyd yn enwog am smyglo, gyda chontraband yn cael ei storio yn y clogwyni.

Yn Oes Fictoria, roedd Freshwater East yn rhan o fyd cymdeithasol prysur ac yn boblogaidd iawn fel lle ar gyfer tripiau a phicnics.

Cynhaliwyd rasys ceffylau Sir Benfro ar y traeth yma ym 1860!

 

Gweithgareddau

Mae Llwybr yr Arfordir yn hyfryd i’r ddau gyfeiriad. Cerddwch i’r dwyrain i fae anghysbell Swanlake ac ymlaen i Faenorbŷr. Mae’r clogwyni tywodfaen coch yn drawiadol iawn yma. Cerddwch i’r gorllewin i Gei Ystangbwll gyda’i gaffi hyfryd ac yna ymlaen i Fae Barafundle.

Atyniadau

Mae traeth Freshwater East yn llydan a thywodlyd gyda thwyni y tu ôl i’r rhan canol, a mannau creigiog, cysgodol ar yr ochr ddwyreiniol. Mae’r twyni y tu ôl i’r traeth yn warchodfa natur leol o’r enw’r ‘Burrows’.

Bwyd a diod

Mae tafarn y Freshwater Inn yn y pentref, a chaffi Time Flies ger y traeth.

Llety

Mae digonedd o wersylloedd a meysydd carafanau bychain gerllaw. Mae amryw o leoedd gwely a brecwast a gwestai o safon yn y pentref a’r ardal. Mae bythynnod hunanarlwyo ar gael ledled yr ardal.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi