Bae Swanlake

Dim ond o Lwybr Arfordir Sir Benfro y gallwch chi gyrraedd bae Swanlake; ond mae hi werth y daith.

Mae’n draeth graeanog, ond ar lanw isel daw traeth o dywod euraid a phyllau glan môr i’r golwg, ac mae clogwyni isel yn y cefndir.

Hyd yn oed yng nghanol yr haf, dim ond llond dwrn o ymwelwyr sydd yma.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Parcio

Mae mynediad i’r traeth ar hyd lôn fferm. Gallwch barcio ar ffordd gul wrth fynedfa’r fferm.

Cyfleusterau

Dim.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Mae mynediad o’r ffordd trwy Lety Ymwelwyr Fferm Bae Swanlake. Y pentrefi agosaf yw Maenorbŷr a Freshwater East  – 10 munud yn y car.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi