Gwarchodfa RSPB
Ynys Dewi, Sir Benfro, Cymru
Mae Ynys Dewi sy’n warchodfa RSPB, yn ynys oddi ar benrhyn Dewi.
Mae llwybr 3 milltir a hanner o gwmpas yr ynys, all fod yn arw mewn mannau, ond dyma’r ffordd orau o weld yr ynys. O gopa Carn Ysgubor a Charn Llundain mae golygfeydd godidog o’r tir mawr i’r dwyrain, o Ynys Sgomer i’r de ac ar ddyddiau clir iawn, o Iwerddon i’r gorllewin.
Mae clogwyni gorllewinol yr ynys, sydd bron i 120m (400 troedfedd) o uchder mewn mannau, gyda’r uchaf yng Nghymru. Mae’r rhain yn gartref i gigfrain, hebogiaid tramor a bwncathod. Yn y gwanwyn, mae gwylogod, llursod, adar drycin y graig, gwylanod coesddu a mulfrain gwyrddion yn dod yma i nythu ac mae brain coesgoch hefyd yn magu ar y clogwyni gan chwilio am hafnau ac ogofâu i adeiladu eu nythod.
O ganol mis Gorffennaf fodd bynnag, mae’r clogwyni’n tawelu wrth i gywion y carfilod fynd allan i’r môr mawr ac mae’r sylw’n troi i’r traethau a’r ogofâu gan fod cannoedd ar gannoedd o forloi bychain yn cael eu geni ar Ynys Dewi bob hydref.
Mae rhostiroedd de’r ynys yn gyfuniad arbennig o rug, eithin a phlanhigion arfordirol. Dyma gynefin clochdar y cerrig, corhedydd y waun, y llinos a’r ehedydd.
Mae siop fechan ar yr ynys ac mae bwyd a diod ar gael.
Mae taith cwch o gwmpas yr ynys yn ffordd wych o weld yr ynys, gan gynnwys y clogwyni anferth yn y gorllewin a’r morloi bychain gwyn, blewog sydd ar y traethau ac yn yr ogofâu yn ystod yr hydref.
Sut y gyrraedd yno
Mae cychod yn gadael o St Justinians ar gyfer y daith fer i Ynys Dewi am 10yb a 12yp, ac yn dychwelyd am 4yp (o Ebrill 1af neu’r Pasg, pa bynnag un sydd gyntaf, hyd Hydref 31ain). Archebwch eich tocyn trwy Thousand Island Expeditions. Darllenwch gyfweliad â wardeniaid Ynys Dewi, Lisa a Greg, er mwyn clywed hanes eu bywyd ar yr ynys sy’n gartref iddynt!