Ble mae'r gorau
Y 10 tafarn orau ar lan y môr neu afon
Does unman gwell i dreulio awr neu ddwy yng nghwmni ffrindiau neu’n gwneud dim ond gwylio pobl nac mewn tafarn ar lan y dŵr.
P’un ai’n gwylio’r haul yn machlud ar noson braf o haf neu wedi lapio’n glyd yng nghanol y gaeaf ble gwell i enaid gael llonydd na ger y dŵr?
Gyda chymaint o opsiynau sut allen ni ddewis, felly fe ofynnon ni i’n ffrindiau ar Facebook ac rydyn ni wedi cael ein boddi ag awgrymiadau!
Felly dyma’r 10 tafarn orau ar lan y môr neu afon a ddewiswyd gennych chi.
-
The Druidstone
Ar fin y clogwyn, fry uwchben traeth o’r un enw, y Druidstone yw’r lle gorau posibl i wylio’r haul yn machlud. Fel y dywedodd Rachel Mullett “Does dim curo eistedd y tu allan i’r ‘Dru’ gyda gwydraid oer o win (neu gwrw) yn gwylio haul yr haf yn machlud…” Does dim rhyfedd hon ddod ar ben y rhestr!
2. Jolly Sailor, Burton
Dafliad carreg o foryd Daugleddau, mae gardd fawr y Jolly Sailor bob amser yn denu cwsmeriaid. Mae lle chwarae a digon o le i redeg yn ei wneud yn berffaith ar gyfer teuluoedd. Os yw’r llanw’n iawn, gallwch hefyd ddal crancododdi ar y pontŵn.
3. The Swan Inn, Aber Bach
Un o ddwy dafarn yn Aber Bach i gyrraedd eich rhestr fer, mae’r Swan Inn ar Point Road yn edrych dros draeth Aber Bach. Mae ganddynt ardd gwrw/teras bach gyda soffas – perffaith ar gyfer gwylio’r byd yn mynd heibio.
4. Wisemans Bridge Inn
Allech chi ddim bod yn nes at y traeth nac yma yn y Wisemans Bridge Inn, gyda’i ystafell wydr enfawr ar gyfer dyddiau glawog a digon o le i eistedd y tu allan ar y traeth, mae’n berffaith boed law neu hindda.
5. The Griffin, Dale
Mae’r Griffin, ar fin y môr yn Dale ,yn lle perffaith i wylio hynt a helynt y bae. Fe gewch chi olygfeydd gwych i lawr yr aber o’r man eistedd y tu allan, uwchben y bwyty, ond mae’r rhan fwyaf o bobl yn ymgynnull ar hyd wal y môr.
6. The Sloop, Porthgain
Mae hon yn dafarn hynod, llawn cymeriad gyda digon o le eistedd y tu allan, sy’n gwneud y gorau o’i lleoliad yn harbwr pentref bach Porthgain. Ac ar y nosweithiau llai braf hynny, cewch groeso cynnes yn y dafarn glyd.
7. Cresselly Arms, Cresswell Quay
Ar lan afon lanwol Creswell, does dim yn well ar fin nos braf nag eistedd ar y cei wrth i’r llanw ddod i mewn yn gwylio llynges fechan yn hwylio i fyny’r afon, gyda pheint o gwrw lleol yn eich llaw. Mae’r dafarn hefyd yn enwog am ei rhan yn y ffilm 2017 ‘Their Finest’ gyda Sam Claflin, Gemma Arterton a Bill Nighy.
8. The Castle, Aber Bach
Dewis gwych arall yn Aber Bach, ger y traeth y tro hwn, yw’r Castle sy’n cynnal nosweithiau gyda bandiau byw lleol gwych. Mae hefyd yn berffaith ar gyfer teuluoedd gan y gallwch gael diod tra mae’r plant yn chwarae yn y pyllau lan môr.
9. The Point House, Angle
Does fawr o dafarndai lle mae’n rhaid i chi edrych ar amseroedd y llanw cyn i chi fynd yno. Mae’r ffordd i’r dafarn yn Angle Point yn diflannu ar lanw uchel iawn, gan eich gadael yn sownd yno. Does bosib bod hynny’n beth drwg!
10. The Ferry Inn, Llandudoch
I fyny’r afon Teifi ryw ychydig o Aberteifi, mae gan y Ferry Inn ei glanfa ei hun, perffaith os ydych chi’n ymweld â chaiac. Mae’r dafarn dros yr afon felly, os ydych chi tu mewn neu tu allan, rydych chi’n teimlo fel petaech chi yn y dŵr!