O gastell i iwrt

Cymaint o lefydd gwych i aros

Cymaint o ddewis

Lleoedd i aros yn Sir Benfro

O westai cyfoes, tai llety neu wely a brecwast wedi’u haddurno â gwaith celf gwych o Sir Benfro.

Brecwast wedi’i baratoi gan ddefnyddio cynnyrch gorau’r Sir, mae sir Benfro’n cynnig dewis eang o wahanol lety ar gyfer unrhyw chwaeth ac unrhyw gyllideb!

Efallai y cewch eich temtio gan hyblygrwydd gwyliau mewn bwthyn hunanarlwyo, neu’r cyfle i wersylla mewn lleoliad godidog dafliad carreg o’r môr.

Byddai tŷ bync neu hostel yn berffaith ar gyfer criw o ffrindiau sydd eisiau dianc am benwythnos llawn hwyl a chwerthin.

Byddai teuluoedd, yn enwedig rhai sydd â phlant ifanc, wrth eu bodd yn aros ar fferm yn Sir Benfro. Anifeiliaid, tractorau, a’r cyfle i fwydo’r moch a hel wyau ar gyfer eu brecwast, bydd yr hen a’r ifanc wrth eu bodd.

Ond pa un? Chi piau’r dewis!