Sicrwydd ansawdd

Eich helpu i wneud y penderfyniad iawn i chi

Beth mae’r graddio yn ei olygu i chi?

Egluro graddio llety

Pan fyddwch yn dewis llety gwyliau, edrychwch am nod ansawdd Cymru a roddir gan y cynllun asesu ansawdd swyddogol sydd ar waith ledled Cymru. Yna, gallwch fod yn hyderus fod y llety wedi’i archwilio cyn i chi gyrraedd.

A oes unrhyw wahaniaeth rhwng cynllun graddio Croeso Cymru a chynlluniau graddio eraill?

Erbyn hyn, mae’r holl gyrff asesu cenedlaethol (Croeso Cymru, Visit England, Visit Scotland, a’r AA) yn defnyddio’r un meini prawf wrth asesu llety gwyliau ac yn rhoi gradd o un i bum seren. Mae’r sêr yn seiliedig ar y cyfleusterau sydd ar gael ac ar ansawdd y profiad drwyddo draw.

 Sut mae Croeso Cymru yn asesu llety?

 Mae tîm o aseswyr proffesiynol Ansawdd Cymru’n ymweld â phob llety bob yn ail flwyddyn, gan gynnwys llety sy’n cael ei reoli gan asiantaethau hunanarlwyo. Croeso Cymru yw prif asiantaeth asesu llety Cymru.

 Beth yw ystyr y graddau sêr?

Mae busnesau sy’n cael eu graddio’n cael gradd o un i bum seren ar sail eu cyfleusterau ac ansawdd y profiad drwyddo draw. I bennu gradd sêr busnes, caiff tair elfen eu hystyried.

Ansawdd y busnes

Mae’r Aseswyr Ansawdd yn asesu pob agwedd ar y busnes ac yn rhoi sgôr sy’n gyfystyr â lefel ansawdd. Defnyddir graddfa o un i bump – mae ansawdd rhagorol yn cael sgôr o bum pwynt, mae ansawdd derbyniol yn cael sgôr o un pwynt.

Ansawdd rhagorol: 5 pwynt

Ansawdd da iawn: 4 pwynt

Ansawdd da: 3 phwynt

Ansawdd gweddol dda: 2 bwynt

Ansawdd derbyniol: 1 pwynt

Ar ôl asesu pob agwedd, cyfrifir sgôr ansawdd y busnes cyfan o’r cyfanswm.

Cysondeb ar draws prif rannau’r busnes

Yna, mae’r Aseswyr Ansawdd yn chwilio am gysondeb ar draws prif rannau’r busnes. Gwneir hyn i sicrhau na all un marc uchel yn un rhan o’r busnes godi canran gyffredinol y busnes i lefel y radd sêr nesaf, gan roi camargraff i westeion am yr ansawdd drwyddo draw. Mae’n hollbwysig bod ansawdd prif rannau’r busnes yn cyfateb i radd gyffredinol y busnes.

Cyfleusterau gofynnol

Bydd yr Aseswyr Ansawdd yn sicrhau bod unrhyw gyfleusterau neu wasanaethau ychwanegol sy’n ofynnol ar lefel benodol, ynghyd â’r rheini sy’n ofynnol ar bob un o’r lefelau sêr blaenorol, yn bresennol a’u bod ar gael i westeion. Mae ymchwil yn dangos po uchaf y radd, po fwyaf o gyfleusterau a gwasanaethau y mae cwsmeriaid yn eu disgwyl.

 A yw gradd sêr is yn gyfystyr ag ansawdd is?

Gall ansawdd llawer o’r lletai sydd â gradd sêr is fod yn uchel, ond nad ydynt yn bodloni’r holl ddisgwyliadau o ran cyfleusterau a gwasanaethau sy’n gysylltiedig â’r graddau sêr uwch. Er enghraifft, mae Croeso Cymru yn defnyddio meini prawf gwahanol, a llawer mwy ohonynt, pan fyddant yn asesu gwestai na phan fyddant yn asesu llety gwesteion (e.e. lleoliadau gwely a brecwast, tai llety).

Mae hyn yn seiliedig ar ymchwil sy’n dangos bod cwsmeriaid yn disgwyl i westai, o’u hanfod, ddarparu mwy o gyfleusterau na lleoliadau gwely a brecwast a thai llety. Mae’r meini prawf graddio’n adlewyrchu hyn, felly mae’n arbennig o bwysig nad ydych yn cymharu gradd pedair seren llety gwesteion â gradd pedair seren gwesty. Maent yn seiliedig ar feini prawf gwahanol.

Rydym yn argymell eich bod bob amser yn cysylltu â’r llety cyn i chi gadw ystafell, er mwyn cadarnhau ei fod yn darparu’r gwasanaethau a’r cyfleusterau sydd eu hangen arnoch. Bydd yn barod iawn i’ch helpu.

Beth yw’r gwahanol gategorïau o lety?

Mae gwahanol fathau o lety ar gael, felly mae gwahanol gynlluniau graddio ar gael ar eu cyfer. I’ch helpu i ddewis, mae’r cynllun graddio newydd yn cynnwys “dynodydd” sy’n disgrifio’r math o lety y gallwch ddisgwyl ei gael – er enghraifft:

 

  • Gwestai yw’r term safonol ar gyfer y rhan fwyaf o fusnesau o’r math hwn, ond gallech hefyd ddod ar draws amryw o ddisgrifiadau eraill sy’n gysylltiedig â steil neu faint y gwesty, fel a ganlyn
  • Mae Gwestai Bach yn cyfeirio at fusnesau sy’n darparu amryw o wasanaethau gwesty ac sy’n wahanol oherwydd nifer yr ystafelloedd sydd ar gael – llai nac ugain fel rheol – ac fe’i defnyddir yn ôl disgresiwn y perchennog.
  • Mae gan Westai Gwledig lawer o dir neu erddi ac maent wedi’u lleoli mewn mannau gwledig neu led-wledig, gan roi pwyslais ar dawelwch a llonyddwch.
  • Mae Gwestai Trefol wedi’u lleoli yng nghanol trefi neu ddinasoedd ac mae ansawdd y ddarpariaeth yn uchel, gyda steil neilltuol. Maent yn darparu gwasanaeth personol iawn.
  • Mae Gwestai Metro wedi’u lleoli yng nghanol trefi a dinasoedd ac maent yn darparu holl wasanaethau gwesty, ac eithrio pryd min-nos. Maent o fewn tafliad carreg at amryw o lefydd bwyta.
  • Mae Gwestai Pris Rhesymol bob amser yn rhan o grŵp o westai â ‘brand’ sy’n darparu cyfleusterau en suite glân a chyfforddus, gwasanaeth archebu 24 awr, a chyfleusterau o safon gyson.
  • Mae Llety Gwesteion yn cwmpasu popeth, o leoliadau gwely a brecwast ag un llofft i leoliadau mwy mewn trefi gwyliau glan môr, gallent fod yn lleoliadau trwyddedig sy’n darparu prydau min-nos.
  • Mae lleoliadau Gwely a Brecwast fel rheol yn darparu ar gyfer hyd at chwe pherson. Mae’r profiad yn debyg i fod yn westai arbennig yng nghartref rhywun.
  • Mae Ffermdai hefyd yn darparu gwely a brecwast, a phryd min-nos weithiau, a hynny bob amser ar fferm.
  • Fel rheol, ceir mwy na thair llofft mewn Tai Llety ac mae’n bosibl y byddant yn darparu pryd min-nos i’w gwesteion. Mae gan rai ohonynt drwydded.
  • Mae’r term Bwytai â Llofftydd yn ddisgrifiad teg o’r sefydliadau yma. Y bwyty yw’r prif fusnes ac mae ganddynt drwydded.
  • Mae gan rhai Tafarnau lofftydd, ac maent yn gweini bwyd gyda’r hwyr yn ogystal â brecwast.
  • Llety Hunanarlwyo: bythynnod a fflatiau lle gallwch chi fwynhau holl gysuron cartref oddi cartref.
  • Fflatiau â Gwasanaeth: fel arfer, mae’r rhain mewn blociau pwrpasol ac maent yn gartref oddi cartref gydag amrywiaeth helaeth o wasanaethau.
  • Pentrefi Gwyliau: mae’r disgrifiad hwn yn cynnwys gwahanol fathau o lety ar safle mawr. Mae amrywiaeth o gyfleusterau ar gael hefyd, a gall y rhain fod wedi’u cynnwys yn y pris neu beidio.
  • Parciau Teithio: maent yn croesawu carafanau teithiol, pebyll ar drelar a chartrefi modur.
  • Parciau Gwersylla: maent yn croesawu ymwelwyr â phebyll.
  • Parciau Gwyliau: gallwch rentu carafan sy’n gartref gwyliau, bwthyn pren neu gaban gwyliau.
  • Llety Campws – mae’r cynllun llety campws yn cynnwys y prifysgolion a’r colegau hynny sy’n gallu darparu llety i ymwelwyr yn ystod gwyliau’r sefydliad ar sail gwely a brecwast neu hunan-ddarpar. Yn aml, mae’r ystafelloedd yn rhai en suite ac mae digonedd o ystafelloedd sengl ar gael sy’n ddelfrydol ar gyfer grwpiau mawr.
  • Llety Hostel – yn aml mewn llety o’r fath, bydd gwesteion yn rhannu ystafelloedd gan gysgu mewn bynciau. Gall fod ystafelloedd i deuluoedd – gyda chyfyngiadau o ran mynediad o bosibl – a gall fod cyfleusterau arlwyo neu hunan-ddarpar.
  • Llety Grŵp – mae llety o’r math hwn fel arfer yn darparu ar gyfer grwpiau mewn llofftydd a rennir. Gall ddarparu prydau neu gyfleusterau hunan-ddarpar.
  • Llety Gweithgaredd – mae llety o’r math hwn yn darparu ar gyfer grwpiau fel rheol, ond nid yn unig, ac mae’n darparu gweithgareddau wedi’u hachredu ar y safle neu gerllaw.
  • Llety Bacpacwyr – mae llety o’r fath yn debyg i hostel, ond gall fod yn cael ei redeg ar sail lai ffurfiol. Yn aml, mae’n fwy priodol ar gyfer teithwyr annibynnol – mae’n bosibl na fydd yn derbyn grwpiau teuluol.
  • Tai Bync – llety gwledig sy’n darparu ar gyfer grwpiau ac unigolion. Efallai na fydd llawer o wasanaethau na chyfleusterau ar gael, ond bydd cyfleusterau hunan-ddarpar ar gael.
  • Ysguboriau Gwersylla – nid yw’r math hwn o lety’n cael gradd sêr. A hwythau’n aml yn cael eu disgrifio fel “pebyll cerrig”, maent yn fawr ac yn sych ac yn darparu llety gwledig syml. Fel rheol, bydd angen i chi ddod â sach gysgu gyda chi.
  • Llety Amgen – nid yw’r llety sy’n perthyn i’r categori hwn yn cael gradd sêr. Mae’n cynnwys llety fel wigwam, tipi, iwrt, carafan sengl a llety nad yw’n gallu darparu’r cyfleusterau a’r gwasanaethau sy’n gysylltiedig â llety prif ffrwd.
  • Llety a restrwyd – mae’r llety wedi dewis peidio â chael gradd sêr, ond mae wedi cadarnhau bod ganddo gyfleusterau a gwasanaethau hanfodol sy’n briodol ar gyfer y math o fusnes a’i fod mewn cyflwr derbyniol.

Daw’r holl wybodaeth uchod oddi ar wefan Croeso Cymru.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi