Traeth yr Harbwr, Dinbych-y-pysgod

Harbwr tlws wedi’i adeiladu mewn cornel ar Draeth y Gogledd, rhwng yr hen dref ganoloesol a Castle Hill.

Mae traeth tywodlyd bychan sy’n berffaith ar gyfer plant ifanc yn union o dan wal yr harbwr.

I’r de o’r harbwr mae gorsafoedd y bad achub, yr hen un a’r un newydd. Gallwch gael hwyl wrth logi cwch hawdd i’w hwylio neu ewch ar daith cwch i Ynys Bŷr.

Ceir cyfyngiadau ar gŵn yn yr harbwr i gyd rhwng Mai 1af a Medi 30ain. Edrychwch ar fap o’r traeth er mwyn gweld i ba ran o’r traeth y mae hyn yn berthnasol.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Parcio

Mae’r ffyrdd o gwmpas yr hen dref a’r harbwr ar gau yn ystod y dydd yn yr haf ond peidiwch â chael eich temtio i yrru lawr i’r harbwr hyd yn oed yn y gaeaf. Ewch i’r maes parcio aml lawr yn lle hynny.

Cyfleusterau

Llogi cychod a theithiau cwch.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Canolfan groeso, nifer o gaffis, tafarnau a bwytai, nifer o siopau diddorol a dewis da o westai, parciau carafanau, gwely a brecwast a hunanarlwyo yn Ninbych-y-pysgod.

  • Nofio
  • Caffi
  • Canŵio
  • Maes Parcio
  • Toiledau Anabl
  • Cyfyngiadau ar gŵn
  • Cymorth Cyntaf
  • Harbwr
  • Angori
  • Ffôn
  • Cychod Modur
  • Pysgota Môr
  • Rhwyfo Môr
  • Llithrfa neu Fan Lansio

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi