Ynys Sgomer

Yn enwog am ei blodau gwylltion, ei hadar drycin Manaw a'i phalod wrth gwrs!

Ynys arbennig iawn

Ynys Sgomer, Sir Benfro, Cymru

Ynys o faeau cysgodol, penrhynnau agored, creigiau arfordirol a chilfachau cudd, ac i gyd yn fôr o liwiau’r cen.

Mae’r gwanwyn yn adeg lliwgar ar Ynys Sgomer gan fod clychau’r gog a gludlys pinc yn gorchuddio’r rhan fwyaf o’r ynys. Yn wir, mae’r lliwiau mor llachar nes bod modd eu gweld o’r tir mawr.

Un o’r lleoliadau gorau yw’r Wig; clogwyn serth gyda silffoedd wedi’u cerfio ynddi, sy’n berffaith ar gyfer adar môr sy’n nythu ac sy’n hawdd i’w gweld o’r clogwyn gyferbyn.  Mae’r Wig hefyd yn lle ardderchog i eistedd a gwylio palod yn mynd a dod. Fyddwch chi ddim angen eich binocwlars fan hyn ond mae’n rhaid i chi gofio’ch camera.

Yng nghanol yr ynys mae adfeilion y fferm. Mae ystafell addysg a chanolfan ddehongli yma yn ogystal â llety ar gyfer hyd at 16 o bobl. Mae rhywbeth hudolus iawn am aros dros nos yma. Roedd Croeso Sir Benfro’n ddigon ffodus i dreulio 24 awr ar Sgomer y llynedd – darllenwch am ein hantur.

Os fyddwch chi’n aros dros nos, gallwch fod yn dyst i un o ddigwyddiadau naturiol mwyaf rhyfeddol y DU, adar drycin Manaw yn dychwelyd i’w llochesi yn y tywyllwch. Arhoswch ar eich traed yn hwyr a cherddwch yn ôl at lanfa’r cwch er mwyn cael profiad unwaith mewn oes. Mae eu sŵn yn rhyfeddol.

Cynhelir ‘Wythnos yr Adar Drycin’ ar yr ynys ddiwedd fis Awst pan fydd gwirfoddolwyr yn cael cyfle i helpu ymchwilwyr gyda’u gwaith amhrisiadwy. Siaradodd Croeso Sir Benfro â’r ymchwilydd, Sarah, am ei Haf gyda’r Adar Drycin ac fe roddodd hi gipolwg i ni y tu ôl i’r llenni ar y gwaith  a wneir ar yr ynys.

Gallwch ddarllen y diweddaraf am yr ynys, gan gynnwys y tripiau cwch, ar eu Blog Ynys Sgomer.

Sut i gyrraedd yno

Mae’r Dale Princess yn mynd o Martin’s Haven o ddydd Gwener y Groglith neu Ebrill 1af (pa bynnag un sydd gyntaf) hyd Awst 3iaf. Mae’n mynd o ddydd Mawrth i ddydd Sul a bob dydd Llun Gŵyl y Banc, ac yn gadael Martin’s Haven am 10yb, 11yb a 12yp ac yn dychwelyd o 3yp ymlaen.

O 1 Medi tan 30 Medi bydd y cwch yn rhedeg o ddydd Mawrth i ddydd Sul ac ar ddydd Llun Gŵyl y Banc, gan adael Martin’s Haven am 11am yn unig.

Gall fod newid yn yr amserlen hwylio oherwydd y tywydd – gwiriwch drwy ffonio Lockley Lodge, man gwybodaeth a siop anrhegion sy’n cael ei rhedeg gan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, neu edrychwch ar Wybodaeth hwylio Sgomer. Gallwch barcio ym maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Martin’s Haven.

Hyn a hyn o ymwelwyr sy’n cael glanio bob dydd. Os fyddwch chi’n rhy hwyr, gallwch fynd ar un o’r teithiau cwch ardderchog ac addysgiadol o gwmpas yr ynys. Ar benwythnosau rhwng mis Mai a dechrau mis Gorffennaf gall y ciwiau fod yn hir. Does dim bwyd a diod ar yr ynys, ond mae toiled yn yr hen fferm.