Mae pawb yn gwerthfawrogi...

... cwrteisi cŵn

Yn galw ar berchnogion cyfrifol!

Cwrteisi cŵn yn Sir Benfro

Does dim byd tebyg i faw ci am wneud i bobl ffraeo. Gwyn y gwêl yw hi weithiau o ran perchnogion a’u cŵn, ond i’r sawl sy’n sathru mewn baw, neu sydd â phlant yn chwarae gerllaw, mae’n broblem fawr sydd angen ei datrys.  

Mae baw cŵn yn broblem barhaus mewn mannau cyhoeddus ac ar draethau. Mae gan y perchennog gyfrifoldeb cyfreithiol am lanhau baw eu cŵn ar unwaith mewn ardaloedd sy’n caniatáu mynediad i’r cyhoedd. Os ydych yn caniatáu i’ch ci faeddu heb lanhau ar ei ôl, gallech dderbyn cosb benodedig gan y Warden Cŵn. Gallwch roi baw ci, mewn bag, mewn unrhyw fin ysbwriel neu mewn bin gwastraff cartref sydd â bag ynddo, ar gyfer ei gasglu.  

Darllenwch a chydymffurfiwch â’r is-ddeddfau a’r rheoliadau sy’n berthnasol i barciau cyhoeddus, traethau a mannau agored, os gwelwch yn dda. Gallwch eu gweld ger mynedfeydd traethau a pharciau, neu eu cael o Ganolfannau Croeso, neu eu lawrlwytho 

Mae Sir Benfron ardal wledig iawn, ac mae’r rhwydwaith o hawliau tramwy a llwybrau cyhoeddus dros dir amaethyddol sydd â da byw’n pori arno – yn enwedig yn ystod y gwanwyn a’r haf.  

Os ydych chi’n bwriadu crwydro cefn gwlad Sir Benfro, gallwch lawrlwytho’r canllaw defnyddiol hwn: Y Côd Cerdded Cŵn. Mae hwn yn helpu i egluro beth i’w wneud wrth groesi caeau sydd â da byw ynddynt, ac mae’n ddefnyddiol iawn yn y gwanwyn pan fydd y caeau’n llawn o ŵyn a lloi 

Nawr eich bod wedi cynllunio’ch teithiau, ac wedi lawrlwytho’r canllaw cerdded cŵn, beth am drefnu rhywle i aros? Chwiliwch am lety sy’n croesawu cŵn, a byddwch yn barod ar gyfer eich gwyliau gyda’ch ffrind gorau. 

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi