English
Accessibility
Skip to main content

A Coblynau Adventure in Saundersfoot

A Coblynau Adventure in Saundersfoot

Darganfod mythau a chwedlau arfordir Sir Benfro ar y trên

Updated

22 July 2026

Camwch oddi ar y trên ac i fyd o dwneli cudd, chwedlau hynafol a llên gwerin hudolus, ar antur sy'n addas i deuluoedd i Saundersfoot.

Yn swatio yng nghesail arfordir Sir Benfro, mae Saundersfoot yn adnabyddus heddiw am ei draeth euraidd llydan, ei harbwr bywiog a'i awyrgylch croesawgar. Ac eto o dan yr wyneb mae gorffennol diwydiannol cyfoethog a thrysorfa o chwedlau Cymreig. Yn ôl llên gwerin, roedd gweithfeydd tanddaearol Cymru yn gartref i'r Coblynau, ysbrydion direidus ond caredig y cloddfeydd oedd yn arwain glowyr i wythiennau gwerthfawr o lo ac yn eu rhybuddio am berygl drwy guro a gwneud swn dirgel yn ddwfn yng nghrombil y ddaear.

Gyda'i threftadaeth ddiddorol o fwyngloddio, ei harfordir dramatig, a gorsaf drenau, Saundersfoot yw'r cyrchfan berffaith am ddihangfa chwedlonol o 48 awr.

Cyrraedd yno ar y trên

Mae teithio i Saundersfoot yn hawdd ar wasanaethau Rheilffordd y Great Western o Lundain Paddington, Bryste, Caerfaddon a De Cymru, a chysylltiadau yn Abertawe a Chaerfyrddin.

Mae gorsaf Saundersfoot tua milltir o'r harbwr a chanol y pentref. O'r orsaf, dilynwch y llwybr troed wedi'i arwyddo i lawr y rhiw ar hyd Heol Frances a Stryd Milffwrd i mewn i'r pentref. Mae'r daith gerdded yn cymryd rhyw 20 munud ac yn rhoi’r cipolwg cyntaf i chi o arfordir Sir Benfro. Mae tacsis lleol hefyd ar gael o'r orsaf.

Diwrnod Un: Dilyn ôl troed y Coblynau

Bore: Cyrraedd Saundersfoot

Dechreuwch eich antur ym Mhorthladd Saundersfoot, lle roedd cenedlaethau o lowyr yn llwytho glo ar longau oedd yn mynd i gyrchfannau ar hyd a lled y byd. Mae'n hawdd dychmygu'r Coblynau yn gwylio o gorneli cudd yr hen dwneli a'r gweithfeydd o dan y pentref.

Heddiw, mae'r harbwr yn ganolfan fywiog i deuluoedd, gyda chychod pysgota, golygfeydd arfordirol a digon o gyfleoedd i ddysgu am hanes morwrol a diwydiannol yr ardal.

Am ginio ysgafn neu goffi a golygfa o'r môr, beth am alw heibio Sip n Sea, man poblogaidd ar lan y môr sy'n lleoliad perffaith i wylio’r gweithgaredd yn yr harbwr.

Nesaf ewch i’r Amgueddfa Lofaol yn yr Harbwr. Mae'r amgueddfa yn adrodd hanes diwydiant glo Sir Benfro, o'i ddatblygiad cynnar a'i bwysigrwydd byd-eang, i adeiladu'r harbwr i wasanaethu’r diwydiant. Cewch wybod am y modd yr oedd y diwydiant wedi dylanwadu ar yr ardal, a dysgu am ddirywiad y diwydiant dros y ganrif ddiwethaf.

Prynhawn: Y Llwybr Mwyngloddio i Bont Wisemans

Un o'r ffyrdd gorau o brofi llên gwerin Saundersfoot yw drwy gerdded ar hyd yr hen lwybr rheilffordd rhwng Saundersfoot a Phont Wisemans.

Mae'r llwybr arfordirol hwn â golygfeydd trawiadol yn dilyn rhan o'r hen rwydwaith diwydiannol a ddefnyddiwyd ar un adeg i gludo glo o’r pyllau glo lleol. Ar hyd y llwybr byddwch yn mynd drwy dwneli atmosfferig a gloddiwyd drwy’r clogwyni. Y llwybrau tywyll hyn yw'r union fath o le lle mae straeon y Coblynau yn teimlo’n fwyaf byw.

Bydd plant wrth eu bodd yn gwrando am guriadau dirgel yn y graig wrth ddysgu am y glowyr oedd unwaith yn gweithio o dan yr arfordir.

Ar ddiwedd y daith gerdded, byddwch yn haeddu lluniaeth yn Nhafarn y Wisemans Bridge, sydd ar y traeth. Mae'r golygfeydd ar draws Bae Caerfyrddin yn ei gwneud yn lle gwych i oedi cyn dychwelyd i Saundersfoot.

Fin Nos: Y Machlud ar lan y Môr

Yn ôl yn Saundersfoot, gallwch fwynhau swper ac edrych dros yr harbwr yn un o'r nifer o fwytai neu dafarndai. Mwynhewch y golygfeydd godidog ar draws y bae a mwynhewch wylio'r haul yn suddo o dan y gorwel.

Wrth iddi nosi, mae storïwyr lleol yn aml yn dweud mai'r cyfnos yw’r adeg pan fydd y ffiniau yn agos iawn rhwng y byd cyffredin a byd llên gwerin Cymru.

Diwrnod Dau: Cestyll, Tylwyth Teg a Chwedlau Arfordirol

Bore: Ystâd Castell Hean ac Arfordir Sir Benfro

Ar ôl brecwast, ewch i archwilio cyffiniau Ystâd Castell Hean, sydd â hanes sy'n ymestyn yn ôl ganrifoedd. Mae tiroedd yr ystâd a'r cefn gwlad o'i gwmpas yn gefndir perffaith ar gyfer straeon am dylwyth teg Cymru.

Tra bod y Coblynau yn byw dan ddaear, dywedwyd bod y Tylwyth Teg yn byw lan yn y bryniau glaswelltog, y dyffrynnoedd cudd a’r llennyrch yng ngolau’r lloer ar hyd a lled Cymru. Gyda'i gilydd roeddent yn rhan o draddodiad llên gwerin cyfoethog sy'n dal yn sail i adrodd straeon Cymru heddiw.

Gall ymwelwyr sy'n chwilio am le i ymlacio fwynhau profiad Sawna Hwyl, sy'n cyfuno golygfeydd arfordirol ysblennydd ag encil llesiant modern.

Prynhawn: Darganfod Chwedlau Sir Benfro Ehangach

Os ydych yn teithio gyda phlant, beth am daith fer ar y trên, neu neidiwch ar fws, i Dinbych-y-pysgod gerllaw. Mae muriau'r dref ganoloesol, y strydoedd cul a'r harbwr lliwgar yn teimlo fel rhywle o wlad hud a lledrith.

Mae Sir Benfro yn gyfoethog o ran chwedlau. Ar hyd yr arfordir fe welwch straeon am seintiau, môr-ladron, cewri a chreaduriaid hudolus. O glogwyni dramatig Bae Sain Ffraid i'r cerrig canoloesol ar wasgar ar hyd y sir, mae llên gwerin yn rhan annatod o bron pob tirwedd.

Yn ôl yn Saundersfoot, beth am dreulio’r prynhawn yn archwilio pyllau creigiog, yn mwynhau'r traeth neu'n ymweld â’r siopau annibynnol lleol.

Fin Nos: Taith Gerdded Olaf yn yr Harbwr

Cyn mynd adref, ewch am un daith gerdded olaf o gwmpas Harbwr Saundersfoot. Wrth wylio’r llanw a thrai, mae'n hawdd gweld pam fod straeon wedi ffynnu yma am ganrifoedd.

Gwrandewch yn ofalus ac efallai y clywch guriadau gwan Coblyn cyfeillgar wrth ei waith o dan y clogwyni.

Bwyd a Diod

  • Sip n Sea – coffi ar lan yr harbwr, ciniawau ysgafn a golygfeydd o'r môr.
  • Lan y Môr – lleoliad ar lan y môr, yn cynnig golygfeydd godidog a phrofiad bwyta moethus.

Lleoedd Aros

Llety moethus gyda golygfeydd ysblennydd ar draws Bae Saundersfoot, sba enwog a mynediad hawdd i'r harbwr.

Casgliad o opsiynau llety ger yr arfordir, yn ddelfrydol ar gyfer teuluoedd a grwpiau.

Dewis eang o fythynnod gwyliau ledled Saundersfoot a'r cyffiniau. Mae 25 Parc Coedrath yn ffefryn arbennig o fewn pellter cerdded i'r pentref.

Llety gwyliau sy'n addas i deuluoedd gyda chyfleusterau rhagorol a mynediad hawdd i Saundersfoot.

Bwthyn gwyliau hunanarlwyo modern ar ffordd breswyl dawel uwchben Bae Saundersfoot, taith gerdded ddymunol 10 munud i'r traeth a'r atyniadau.

Pam ymweld?

Gan gyfuno traethau hirfelyn, treftadaeth ddiwydiannol ddiddorol a chanrifoedd o lên gwerin Cymru, mae Saundersfoot yn cynnig math gwahanol o ddihangfa glan môr. P'un a ydych yn dilyn ôl troed y Coblynau drwy hen dwneli mwyngloddio, yn archwilio Arfordir Sir Benfro neu'n mwynhau pysgod a sglodion wrth yr harbwr, mae'r gornel hudolus hon o Gymru yn profi nad yw rhai chwedlau byth yn pylu.