Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Traeth Niwgwl

Map
Location Pin

Traeth Niwgwl

Anferthol! Dyna’r unig air i ddisgrifio’r traeth hwn; mae yma bron i 2 filltir o dywod a llethr anferth o gerrig mân a ffurfiwyd gan storm FAWR ym 1859.

Mae syrffio barcud a syrffio’n boblogaidd ar y traeth hwn ac mae hyfforddiant ar gael.

Cerddwch yr holl ffordd i’r pen deheuol lle mae ogof y gallwch gerdded drwyddi a nifer o faeau cysgodol.

Croeswch yr afon, y tu ôl i’r llethr o gerrig mân gyferbyn â’r caffi yn y pen gogleddol, er mwyn cyrraedd nifer o faeau llanw isel.

Pan fydd y llanw’n isel iawn, mae’n bosibl cerdded i draeth Cwm Mawr ond cadwch olwg ar amseroedd y llanw gan nad ydych eisiau cael eich ynysu.

Mae cyfyngiadau ar gŵn ar draean canol y traeth rhwng Mai 1af a Medi 30ain. Edrychwch ar fap o’r traeth er mwyn gweld i ba ran o’r traeth y mae hyn yn berthnasol.

Parcio

Mae tri maes parcio ar hyd y traeth. Mae dau ohonynt yn rai talu ac arddangos.

Cyfleusterau

Toiledau, mae gwylwyr y glannau ar ddyletswydd rhwng dechrau mis Mehefin a diwedd mis Medi.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Mae siop syrffio, caffi a thafarn ym mhen gogleddol y traeth. Gallwch gael hyfforddiant syrffio a syrffio barcud a llogi byrddau yn y siop. Mae gwersyll ym mhen gogleddol y traeth a dewis o wely a brecwast, tai ymwelwyr a llety hunanarlwyo gerllaw. Mae caffi/siop traeth, toiledau a pharc carafanau statig yn y pen deheuol.

Sut i Ddod o Hyd i Ni

Newgale, Haverfordwest
51.853931, -5.123441
vacancies.depend.legend

Hygyrchedd

Cyfleusterau sydd ar gael:
Dolen glyw