Dau bentref bychan tua hanner ffordd rhwng Hwlffordd ac Abergwaun yw Trefgarn a Chas-blaidd. Yn wahanol i Gas-blaidd, mae Trefgarn ar wasgar braidd, a does dim canol i’r pentref fel y cyfryw.
Mae’r pentref yn enwocach am Geunant Trefgarn a’i dyrrau carreg tebyg i rai Dartmoor.
Mae Trefgarn yn nodedig am ei ddyffryn cul a choediog lle mae’r Cleddau Wen yn cydredeg â chledrau’r rheilffordd – rheilffordd a drechodd Brunel yn y pen draw, a’i chost bron â suddo’r Great Western Railway.
Gan fod Trefgarn a Chas-blaidd ar y brif ffordd rhwng Hwlffordd ac Abergwaun, mae digonedd o fysiau. Mae dwy fferi yn hwylio o Abergwaun i Rosslare yn Iwerddon bob dydd.
Dywed rhai mai yn Nhrefgarn y ganwyd Owain Glyndŵr. Ym mhen gogleddol y ceunant, yn agos i’r man lle torrwyd llwybr ar gyfer yr A40, mae Melin Nant y Coy. Does neb yn gwybod faint yw oed y felin, ond cafodd ei hail-godi yn 1844 gan deulu Evans o Blas Trefgarn. Bu’r felin yn rhan o’u hystâd am flynyddoedd nes dod i feddiant teulu’r Higgons o Faenordy Scolton, ac yna i ddwylo preifat nes ymlaen. Bellach, mae hi wedi’i hadnewyddu.
Ychydig i’r de o’r felin mae ffordd fechan yn arwain i fyny’r allt tuag at faes parcio bychan o dan Gaer Trefgarn. Mae’r gaer hon, sydd mewn lleoliad hynod o ddramatig, yn defnyddio ffurfiau naturiol y creigiau fel rhan o’i muriau amddiffynnol. Mae’r rhagfur mewnol mewn cyflwr da ac yn cyrraedd 4m o uchder mewn rhai mannau.
Mae’n debyg i’r gaer drawiadol hon fod yn ganolbwynt system ehangach o adeiladau yn ystod yr Oes Haearn, gan fod olion cytiau crynion wedi’u canfod gerllaw, yn ogystal ag olion ffermdai caerog bychain o boptu’r ceunant.
Mae enw Cas-blaidd yn cyfeirio at y castell mwnt a beili a adeiladwyd gan y Normaniaid ar ffin y landsger. Cyfres o gaerau o’r Garn, ger Niwgwl, hyd at Amroth oedd y landsger, er mwyn gwahanu’r Normaniaid yn y de a’r Cymry yn y gogledd. Collwyd rhan o’r beili wrth adeiladu’r A40, ond mae’r hyn sydd ar ôl wedi’i glirio a’i agor i’r cyhoedd.
Trefgarn a Chas-blaidd