Mae Penrhyn Castell Martin i’r de-orllewin o dref Penfro ac yn cynnwys cymunedau anghysbell fel Merrion, Rhoscrowdder ac Angle.
Gwasanaeth 387/388 Gwibfws yr Arfordir sy’n gwasanaethu’r penrhyn hwn, gan gysylltu’r holl bentrefi â Phenfro a Doc Penfro, lle mae gorsaf rheilffordd hefyd. Perffaith ar gyfer unrhyw un sy’n cerdded Llwybr Arfordir Sir Benfro.
Mae gan benrhyn Castell Martin hanes milwrol hir. Tua diwedd y 1930au cymerwyd rhan fawr o benrhyn Castell Martin drosodd ar gyfer maes tanciau’r Corfflu Arfog Brenhinol (RAC) ac fe’i datblygwyd ymhellach yn ystod cyfnod y Rhyfel Oer. Erbyn hyn, Castell Martin yw’r unig faes tanio sydd ar gael i unedau arfog Byddin y DU gynnal ymarferion tanio byw uniongyrchol.
Gosodwyd tyrrau tanio gynnau yn Ffald Castell Martin, yng nghanol y pentref, yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Ar domen y castell canoloesol yn Castle Farm (sy’n eiddo preifat) mae olion gorsaf Corfflu’r Gwylwyr Brenhinol o’r Ail Ryfel Byd.
The Castlemartin peninsula