Erwau o dywod a thwyni, fel Freshwater West ac Aberllydan, neu draeth bychan, creigiog, anghysbell, fel Cwm-yr-Eglwys, sy’n wych ar gyfer archwilio pyllau glan môr?
Dan warchodaeth statws Parc Cenedlaethol, mae dyfroedd a thraethau Sir Benfro ymysg y glanaf, ac mae ganddynt sawl gwobr sy’n cydnabod hynny; Baneri Glas, Arfordir Glas a gwobrau Glan Môr! Dyna pam bod traethau Sir Benfro ymysg y gorau yng Nghymru.
Pan fyddwch chi’n mentro tua’r arfordir, cofiwch wirio amseroedd y llanw yn Sir Benfro. Gall eich traeth mawr, llydan fod wedi diflannu dan ddŵr y môr, neu gall y llanw fod wedi dod i mewn y tu ôl i chi gan eich dal heb ffordd yn ôl i dir sych!

Anferthol! Dyna’r unig air i ddisgrifio’r traeth hwn; mae yma bron i 2 filltir o dywod a llethr anferth o gerrig mân a ffurfiwyd gan storm FAWR ym 1859.

Ar lanw uchel mae hwn yn fae bychan creigiog, wedi’i wasgu rhwng dau glogwyn uchel filltir i’r de o Dyddewi. Mae’r creigiau o gwmpas Caerfai’n gymysgedd amryliw o lwyd, gwyrdd a phinc llachar.

Ar lanw uchel, mae’r traeth yn stribed cul ar ben y gilfach ond ar lanw isel mae’r harbwr yn hollol sych oni bai am nant sy’n llifo drwy’r canol, lle gallwch gael oriau o bleser yn dal pysgod, berdys a chrancod.

Bae bach tywodlyd hyfryd. Mae goleddf graddol i’r môr felly dylai fod yn ddigon diogel ar gyfer nofio, er ei fod yn greigiog mewn mannau.

Bae bychan o dywod a chreigiau gyda ‘drws’ anferth wedi’i gerfio allan o’r clogwyni anhygoel gan ryferthwy’r môr.

Bae bychan o dywod a graean tywyll yn edrych ar draws y bae tuag at Abergwaun.

Bae bychan tywodlyd â nant yn llifo drwyddo. Mae digon o byllau glan môr i chwilotwyr dewr ac mae’n boblogaidd gyda rhai sydd â chychod gan fod clwb cychod yn y pentref.

Bae llydan o dywod euraid gyda thwyni tywod, a nant yn llifo drwy’r traeth yn y pen deheuol.

Bae llydan, tywodlyd gyda thwyni tywod sy’n arwain o lynnoedd Bosherston yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Pan fydd y llanw’n isel mae hwn yn draeth anferth o dywod meddal, ac felly mae digon o le i bawb.

Bae o fflatiau tywod a llaid sy’n cael fawr iawn o ymwelwyr. Mae hon yn ardal fwydo bwysig i adar hirgoes ac felly mae’n lle perffaith i wylio adar.

Cildraeth bach tywodlyd â chlogwyni o’i amgylch, i’r gogledd o Borth Mawr. Dim ond oddi ar lwybr yr arfordir y gallwch ei gyrraedd.

Cilfach fechan dywodlyd a chreigiog sydd bob amser â thywod, boed ar lanw uchel neu isel. Mae’n fan poblogaidd ar gyfer cychod gan fod llithrfa i’r traeth.

Cilfach fechan o greigiau a thywod wedi’i hamgylchunu gan glogwyni uchel. Mae hwn yn draeth gwirioneddol wyllt ac anghysbell. Nid yw’n lle da i nofio ond mae’n dda ar gyfer gwylio llamhidyddion.

Cilfach gul hyfryd sydd wedi ei chysgodi rhag y prif wyntoedd, sy’n ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfer caiacwyr a chychod.

Cilfach gul o gerrig mân a thywod ar lanw uchel ond ar lanw isel, traeth hir a chul gyda chlogwyni uchel.

Cyrchfan fechan ond poblogaidd iawn, gyda phob cyfleuster y gallech fod ei angen.