Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Sir Benfro ar Blat

Sir Benfro ar Blat

Un o'r ffyrdd gorau o ddod i adnabod lle yw blasu'r bwyd lleol

Published

14 May 2025

Un o'r ffyrdd gorau o ddod i adnabod lle yw blasu'r bwyd lleol – ac yn Sir Benfro, gallwch fod yn sicr bod y cogyddion ar hyd a lled y sir yn defnyddio’r cynnyrch gorau oll.

Mae hyd yn oed yr arbenigwyr yn cytuno – mae’r Lonely Planet diweddaraf sy'n edrych ar y profiadau bwyd gourmet gorau yn Ewrop, yn cynnwys y 'Rising Tides of Pembrokeshire' ochr yn ochr â phrofiadau tebyg yn Tuscany, San Sebastian, a'r Fforest Ddu. Mae’r canllaw Gourmet Trails Europe 2024 yn dweud bod y sîn fwyd yn Sir Benfro yn "ffynnu fel tonnau'r Iwerydd gyda chynhyrchwyr a chogyddion yn manteisio ar flasau cynnyrch a chwilotir o’r perthi a’r perci". Mae'r cyflwyniad yn dweud bod y llwybr y maent wedi'i glustnodi yn "tanlinellu cogyddion a chynhyrchwyr yr ardal a'u cariad at natur ac ailddyfeisio".


Gyda 186 milltir o arfordir ac erwau o dir amaethyddol cynhyrchiol, does dim prinder bwyd môr ffres, cig a chynnyrch llaeth gwych, a llysiau blasus ar gael. Mae hyn i gyd wedi sbarduno ton newydd o dyfwyr annibynnol – gwinllannoedd, pobyddion, bragwyr, chwilotwyr bwyd, crefftwyr, a chogyddion arloesol – sydd wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd i greu sîn fwyd y mae'n rhaid ymweld i flasu. Byddai eu rhestru i gyd yn cymryd yn rhy hir ond rydym wedi clustnodi rhai o'r bwytai a'r stondinau bwyd gorau yn y sir gan roi blas o'r byd ehangach ond â gwir flas Sir Benfro.

Pwy sydd ddim yn mwynhau pitsa ar wyliau? Yma yn Sir Benfro does dim prinder llefydd pitsas go iawn, gan gynnwys opsiynau di-glwten a fegan, ac mae gennym hyd yn oed bencampwr pitsa'r byd!

Top Joe's Pizzaria

Dechreuodd Top Joe’s Pizzeria ar Upper Frog Street yn Ninbych-y-pysgod yn 2012 gan ehangu i dref farchnad Arberth yn 2018. Coronwyd eu cogydd yn Arberth, Giovanni Recchia, y gorau yn y byd yn ei gategori yn y Campionato del Mondo di Pizza, Pencampwriaethau Pizza'r Byd, yn Rimini, yr Eidal. Ers hynny mae wedi agor ei fwyty ei hun ym Mhenfro ar Westgate Hill, gyferbyn â'r castell, gan weini ei pizza arbenigol yn ogystal â dechreufwyd a phwdinau cartref. Enw’r bwyty yw Gio Recchia Pizza Contemporania, sy’n denu ciniawyr â phedwar math gwahanol o pizza: pizza ar y padl, pizza petryalog crensiog, pizza crwn sy’n grensiog ar y tu allan ond yn feddal ar y tu mewn; pizza Napoli cyfoes, a pizza di-glwten.

The Shed

Does dim gwyliau ar y glannau yn gyflawn heb y clasur pysgod a sglodion. Diolch am gael ein hamgylchynu bron yn gyfan gwbl gan ddyfroedd glân gloyw, does dim prinder pysgod ffres. Ond o ddewis dim ond un lle, gwnewch yn siŵr mai’r Shed ym mhentref harbwr bach Porth-gain yw hwnnw. Dafliad carreg o'r môr, mae'r bistro cyfeillgar hwn yn cynnig amrywiaeth o bysgod a physgod cregyn, y cyfan wedi'u dal gan y perchennog Rob, neu bysgotwyr lleol yn Abercastell, Solfach neu Dyddewi.

The Stone Crab

Bwyty arall ar lan yr harbwr na ddylid ei golli yw'r Stone Crab yn Saundersfoot. Gan ennill gwobr y bwyty bwyd môr gorau yng Nghymru yn 2023, mae archebu lle yn hanfodol yn y bistro bach poblogaidd hwn. Gallwch ddisgwyl cael dewis o gimwch, penfras wedi'i rostio, lleden wedi'i stwffio â chranc Saundersfoot neu stiw maelgi Catalan a chorizo ynghyd â bwrdd o fwydydd arbenigol â beth bynnag sy'n digwydd bod yn dda ar y diwrnod hwnnw.

Am brofiad bwyd môr bythgofiadwy, ewch i Dafarn y Griffin yn Dale. Wedi'i lleoli ar lan y môr, mae'r dafarn 300 mlwydd oed hon yn cynnig croeso cynnes Cymreig a rhai o'r bwyd môr mwyaf ffres yn Sir Benfro. Mae llawer o'r pysgod yn cael ei lanio ychydig gamau i ffwrdd ar bontŵn y pentref, gan gynnwys cimwch, cranc, draenog y môr a chregyn bylchog. Mae'r cogydd-berchennog Simon Vickers, a elwir yn annwyl yn 'Accidental Chef', wedi trawsnewid y Griffin yn gyrchfan arobryn, sy'n enwog am y bwyd syml llawn blas sy'n gadael i ansawdd y cynnyrch lleol ddisgleirio. Gallwch fwyta yn y bwyty â ffrynt gwydr â golygfeydd panoramig o Fae Dale, neu fwynhau awel y môr o'r teras ar y to – y naill neu’r llall, bwyta ar lan y môr ar ei orau yw hyn.

The Manor Town House

Os ydych yn aros dros nos ac eisiau brecwast llawn, gwnewch yn siŵr eich bod yn aros yn y Manor Townhouse yn Abergwaun. Mae'r gwesty bach Sioraidd cain hwn yn cynnig brecwast pedwar cwrs sy'n newid bob dydd ac sydd wedi’i glodfori i’r entrychion. Mae'r perchennog a'r cogydd Helen Sheldon yn sicrhau bod y fwydlen yn cynnwys cynhwysion tymhorol, lleol, ac yn darparu ar gyfer gwahanol ddewisiadau dietegol. Dechreuwch eich diwrnod â ffrwythau ffres ar sgiwer, granola cartref, a chompot â iogwrt, ac yna pryd arbennig wedi'i goginio megis wyau wedi'u sgramblo gydag eog mwg ac asbaragws, neu surdoes wedi'i grilio â ricotta wedi'i chwipio â fanila ac eirin gwlanog wedi'u rhostio â theim. I gyd-fynd â'ch pryd bwyd mae coffi Cymreig newydd ei falu neu baneidiau o de arbenigol. Gall gwesteion fwynhau eu brecwast dan do neu yn yr awyr agored ar deras yr ardd, y ddau yn cynnig golygfeydd godidog o'r môr dros Fae Abergwaun. P'un a ydych yn ymbaratoi am ddiwrnod o gerdded ar lwybr yr arfordir neu am fore hamddenol, mae’r Manor Townhouse yn sicrhau dechrau cofiadwy i'ch diwrnod.

The Box at Haverhub

Os ydych yn Hwlffordd, tref y sir, ac yn dyheu am bryd o fwyd sy'n flasus ac yn gyfleus, rhaid i chi ymweld â’r Box yn Haverhub. Caffi yw hwn yng nghanol y dref ar Stryd y Cei sy’n cael ei redeg gan y tîm gŵr a gwraig Ben ac Ellie Gobbi, sydd â 25 mlynedd a mwy o brofiad yn y maes lletygarwch. Mae eu bwydlen yn cynnwys dewis sy’n newid yn gyson o fwydydd wedi'u gwneud â chynhwysion lleol, gan sicrhau cynigion ffres a thymhorol. P'un a ydych chi'n galw heibio am ginio cyflym neu'n cynnal digwyddiad arbennig, mae’r Box yn cynnig amrywiaeth o opsiynau, gan gynnwys ciniawau-i-fynd, brechdanau gourmet, byns bao, a phrydau fin nos. Maent hefyd yn cynnig gwasanaeth arlwyo ar gyfer digwyddiadau, gan ddanfon prydau parod i'w rhoi yn y popty neu'n barod i'w rhoi ar blat i'ch lleoliad.

Maria's Restaurant Picton Castle

Am goginio Sbaenaidd blasus (â bach o flas Cymreig!) does dim rhaid i chi edrych ymhellach na Maria’s yng Nghastell Picton. Dywed Maria, sy’n angerddol am fwyd da ac yn dod o dref fach ger Valencia, “Dydw i erioed wedi colli fy awch am fwyd Sbaenaidd da… Rwy’n gwneud bwyd gwladaidd, fel y gwneir yn Sbaen ei hun, dim byd ffansi nac addurniadol; dim ond bwyd gogoneddus, wedi’i goginio â chariad a digon o win Sbaenaidd cyfoethog gwych yn gymar”. Chwiliwch am ei nosweithiau tapas a’i siocled poeth a churros Sbaenaidd, neu mae digon o ddanteithion i’w prynu yn y siop. Fel arall, mae Ultracomida yn Arberth yn lle gwych am bopeth Sbaenaidd a Chymreig o’r deli. Rydym yn eich herio i beidio â gadael gyda bag llawn o ddanteithion ar gyfer y picnic neu’r noson orau i mewn!

Coco's

Os ydych chi'n dyheu am flasau Mecsicanaidd, ewch i Coco's yn Aberdaugleddau, lle mae sbeisys beiddgar, lliwiau llachar, a chroeso cynnes yn eich aros. Mae'r lle bywiog hwn yn dathlu traddodiadau coginio cyfoethog Mecsico, gan ddod â dewis ffres a chyffrous i'r sîn bwydydd lleol. Camwch i mewn a byddwch yn dod ar draws addurno trawiadol sydd mor llawn cymeriad â'r fwydlen - meddyliwch am deils llachar, gwaith celf beiddgar, ac awyrgylch ffiesta sy'n codi'r ysbryd. O ffefrynnau bwyd stryd llawn blas i fwydydd cysurlon llawn afiaith, mae Coco's yn cynnig llawn plat ac awyrgylch llawn hwyl. Blas o Mecsico ag acen Sir Benfro - a phryd o fwyd fydd yn aros yn y cof am hir.

Lokky's

Os yw bwyd arddull Asiaidd yn fwy at eich dant, yna mae Lokky's, ger Saundersfoot, wedi ennill ei blwyf ar y sîn fwyd â'i fwydlen Pan-Asiaidd sy'n cyfuno blasau mewn modd fydd yn tynnu dŵr i’ch dannedd a rhoi blas am fwy. Ac nid dim ond ni sy'n meddwl hynny; yn ddiweddar maent wedi ennill Gwobr y Golden Chopstix. Mae’r cyfuniad o flasau a chynhwysion aromatig o fwydydd Thai, Philipinaidd, Japaneaidd a Coreaidd wedi'u paru'n berffaith â choctels tanbaid, cwrw oer a gwasanaeth cyfeillgar. Os mai bwyd Tsieineaidd yw eich bryd, ewch i'w chwaer fwyty gerllaw, y Dragon Palace, neu am flasau Japaneaidd, ewch yn syth i Umi ar stryd fawr Dinbych-y-pysgod. Wrth grwydro ar hyd y stryd fawr honno, byddwch yn siŵr o ddod ar draws arogleuon blasus yn dod allan o farchnad Dinbych-y-pysgod… Gadewch i'ch trwyn eich arwain at ddanteithion persawrus Nora's Kitchen. Mae stondin fwyd fach Nora, a aned ym Malaysia, yn gweini bwyd Malaysiaidd dilys o ansawdd uchel megis Cig Eidion Rendang, Nasi Goreng Kampung a Cyw Iâr Satay i'w bwyta yno neu i fynd allan.

Velfrey Vineyard

I gael blas ar olygfa win lewyrchus Sir Benfro, ewch i’r mewndir i Winllan Velfrey ger Arberth. Wedi'i sefydlu yn 2016 gan deulu Mounsey, mae'r winllan hardd hon, sy'n cael ei rhedeg gan deulu, wedi ennill clod yn gyflym am ei gwinoedd pefriog a llonydd wedi'u crefftio o rawnwin Pinot Noir, Seyval Blanc, a Solaris. Cafodd eu Gwin Pefriog Brut Velfrey NV Traddodiadol ei ddyfarnu yn Win Gwyn Pefriog Gorau yng Ngwobrau Gwin Cymru 2024, ac mae'r gwin hwnnw a'u gwin Rosé Pefriog 'Rhosyn' 2021 wedi ennill statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig. Gall ymwelwyr fwynhau teithiau tywys drwy'r gwinwydd, ac yna sesiynau blasu yn y caban sy'n edrych dros y winllan. Parwch eich gwin â bwrdd o gawsiau o Gymru sy'n cynnwys cawsiau lleol, charcuterie, a focaccia newydd ei bobi, am brofiad hyfryd. Mae'n fan tawel i sipian a mwynhau cymeriad unigryw Sir Benfro ym mhob gwydraid.

Wrth gwrs, mae angen hufen iâ ar unrhyw wyliau glan môr – ac ar lan yr afon yn Aberdaugleddau, mae’r Parlwr Hufen-iâ a Siop Goffi Scoop yn fan delfrydol. Mae’r Scoop yn creu ei hufen iâ ei hun ar y safle yn eu Hufenfa yn Tŷ Neptune, drwy ddefnyddio llaeth ffres, lleol a hufen dwbl i greu amrywiaeth o flasau. O ffefrynnau clasurol megis Fanila a Sglodion Siocled Mintys i opsiynau moethus megis Caramel Hallt a Biscoff, mae rhywbeth at ddant pawb. Maent hefyd yn darparu ar gyfer amrywiol anghenion dietegol gydag opsiynau sy'n addas i feganiaid, conau di-glwten, a hyd yn oed hufen iâ arbennig i gŵn. Wedi'i leoli yn ymyl y llifddorau, dyma'r lle perffaith i fwynhau danteithion wrth wylio cychod yn gleidio heibio ar Ddyfrffordd Aberdaugleddau.

Yn olaf, pan fyddwch yng Nghymru, dim ond un gacen y dylech fwyta – sef pice ar y maen – ac yn ein barn ni, ni ddylid yfed paned heb un o’r rhain! Felly, ychwanegwch Cacennau Mam-gu* yn Nhyddewi a Saundersfoot i'ch rhestr o fwydydd ‘rhaid eu blasu’. Mae'r perchnogion Thea a Becky wedi mynd â'r rysáit draddodiadol i lefel hollol newydd, gan gyflwyno 14 o wahanol flasau gan gynnwys dewis sawrus!

Cewch ddiolch i ni yn ddiweddarach!

A chofier y gallwch ymweld â nifer o'r lleoliadau hyn drwy ddefnyddio'r trên!