Swyddi Gwag
Rydym yn Recriwtio – Ymunwch â’n Tîm.
Swyddog Datblygu Aelodaeth
Ydych chi am fod yn rhan o sefydliad unigryw, y cyntaf o’i fath yng Nghymru? Allech chi helpu i ledaenu’r gair i fusnesau ledled y sir am y gwaith gwych a wneir gennym a’n huchelgais i wneud Sir Benfro yn un o’r 5 Prif Ddewis Cyrchfan yn y DU, ynghyd â meithrin perthnasoedd â’r aelodau busnes presennol? Os mai ydw yw’r ateb, yna efallai mai dyma’r swydd i chi!
Rydym yn chwilio am Swyddog Datblygu Aelodaeth rhan amser i ymuno â’n tîm cynyddol ac i fwynhau’r buddion gwych a gynigir gennym fel cyflogwr.
Croeso Sir Benfro yw’r Sefydliad Rheoli Cyrchfan Swyddogol ar gyfer Sir Benfro. Rydym yn bartneriaeth a arweinir gan fusnesau sy’n dod â’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ynghyd i gydweithio i sicrhau dyfodol cynaliadwy i dwristiaeth yn Sir Benfro.
Mae hon yn swydd gyffrous, lle bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i sicrhau twf yn yr aelodaeth a chryfhau cadw aelodau. Bydd yn cefnogi’r Rheolwr Partneriaethau a Masnachol i gynnal aelodaeth gref ac ymgysylltiol ac i recriwtio aelodau newydd i sicrhau’r incwm aelodaeth blynyddol a gyllidebwyd. Y swyddog fydd y prif bwynt cyswllt ar gyfer yr aelodau presennol a’r darpar aelodau, ac yn rheoli ymholiadau cyffredinol, ceisiadau ac adnewyddu aelodaeth.
22.5 awr yr wythnos (3 diwrnod) am gyfnod penodol o 6 mis i gychwyn gyda chyfle i ymestyn y cyfnod.
Cyflog – £23,000 y flwyddyn pro rata
Dyddiad cau – 22 ain o Fedi
I gael rhagor o wybodaeth a manylion am sut i wneud cais, cliciwch fan hyn: