16 July 2025
Mae Saundersfoot wedi mwynhau cyfnod o ffyniant yn ystod y blynyddoedd diwethaf, diolch yn rhannol i'w awyrgylch pentrefol arbennig, ei draeth euraidd hardd a'i harbwr prysur a ffyniannus. Yn llai ac yn dawelach na'i gymydog Dinbych-y-pysgod, mae Saundersfoot yn ganolfan berffaith i archwilio de Sir Benfro.
Mae'r rhan fwyaf o bethau o fewn pellter cerdded, a gyda bysiau a threnau yn rhedeg i'r trefi cyfagos, mae'n hygyrch i bawb. Mae'r traeth Baner Las godidog yn boblogaidd gyda theuluoedd, ac mae'n lle delfrydol ar gyfer nofio yn y môr, canŵio, hwylio a physgota. Mae'n ddewis gwych ar gyfer encil glan môr, beth bynnag fo'r tymor, a gyda'r rhaglen a awgrymwn isod, byddwch yn meddwl tybed a yw pedwar diwrnod yn ddigon!

Saundersfoot Harbour
Diwrnod un
Deffro i godiad haul godidog. Gyda'r traeth sy'n wynebu'r dwyrain, mae Saundersfoot yn mwynhau rhai o'r golygfeydd gorau o godiad haul yn y sir ac nid oes ffordd well o ddechrau'r diwrnod mewn gwirionedd. Os ydych yn teimlo'n ddewr, rhowch gynnig ar nofio yn y môr. Mae boreau cynnar yn amser tawel ar y traeth, gyda'r golau euraidd hwnnw a dim ond sŵn adar yn galw a thonnau'n taro’r lan.

Sip n Sea
Am frecwast swmpus ewch i Sip n Sea, caffi bach a redir gan deulu ar Deras Cambrian sy'n gweini brecwastau cartref gydol y dydd, ciniawau ysgafn a bwydlen i blant. Mae hefyd yn gyfeillgar i gŵn ac yn hygyrch i gadeiriau olwyn.
Erbyn hyn mae'n bryd cael teimlad o Saundersfoot – ewch i'r harbwr i weld y cychod pysgota. Mae'r prif draeth yn ymestyn tuag at Neuadd Coppet, ac os yw'r llanw'n iawn gallwch gerdded ar hyd y tywod i Bont Wisemans ac ymlaen i Amroth, dechrau Llwybr Arfordir Sir Benfro. Ar ochr arall yr harbwr, mae ramp i lawr i draeth Glen sydd, pan fo’r llanw ar drai, yn mynd â chi yr holl ffordd i Drwyn Monkstone.
Mae'r darn hwn o draeth yn boblogaidd gyda cherddwyr cŵn a chasglwyr cocos, ond cadwch lygad ar y llanw, gall eich ynysu yn hawdd.
Mae coedwigoedd clychau’r gog i gerdded drwyddynt yn Ystâd Castell Hean, neu os ydych yn cyrraedd yn hwyrach yn y flwyddyn, galwch heibio Gerddi Coetir Colby i fynd am dro yng nghanol y rhododendronau, asaleas a choed sbesimen aeddfed. Mae’n werth ymweld â’r bwyty ar y safle, yn enwedig am de hufen!
Am daith gerdded wastad sy'n hawdd ei thramwyo i’r pramiau, cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn, cerddwch drwy'r twneli tuag at Bont Wisemans a mwynhewch ddiod a chinio y tu allan i Dafarn Pont Wisemans, lle mae'r ardd gwrw yn ymyl y traeth.

Hwyl Outdoor Sauna
Ymlaciwch ar ôl eich diwrnod cyntaf yn Saundersfoot gyda sesiwn sawna yn Hwyl Sauna, sawna tân coed Sgandinafaidd traddodiadol ar yr harbwr. Gellir archebu sesiwn hanner awr neu awr i fwynhau’r profiad adfywiol o iachau dwfn drwy ddefnyddio gwres y sawna ac oerfel y môr – y ffordd berffaith i ymlacio a theimlo'n anhygoel.

Saundersfoot
Diwrnod dau
Erbyn hyn, byddwch yn gyfarwydd â Saundersfoot felly mae'n amser i grwydro ymhellach. Ewch ar y daith fer i Ddinbych-y-pysgod – mae bysiau a threnau yn rhedeg yn rheolaidd – a mwynhewch naws glan môr traddodiadol y dref liwgar hon.
Heddiw yw'r diwrnod i fynd ar drip mewn cwch a chael cyfle i weld arfordir godidog Sir Benfro o ongl wahanol. Wrth adael yr harbwr gallwch naill ai fynd ar drip bywyd gwyllt i weld y nythfa morloi oddi ar Ynys Bŷr neu roi cynnig ar bysgota – mae tripiau pysgota macrell yn berffaith i ddechreuwyr a theuluoedd o bob oed, a phwy a ŵyr, gallech ddychwelyd â swper yn eich llaw!
I’r rhai sydd well ganddynt droedio’r tir, beth am fynd allan ar Lwybr yr Arfordir gyda phicnic, a rhyfeddu at ein harfordir godidog? Mae’r llwybr yn hawdd dod o hyd iddo a’i ddilyn os ydych am fynd ar daith gerdded fer. Neu os ydych am wneud rhywbeth ychydig yn fwy heriol, cymerwch fap cyn i chi ddechrau fel y gallwch gynllunio eich antur eich hun.
Gallwch gerdded yr holl ffordd yn ôl i Saundersfoot os mynnwch, neu un arall o’n ffefrynnau ni yw mynd tuag at Lydstep ac i fyny i’r pentir. Mae’r llwybr hwn fel arfer yn eithaf sych a hawdd i’w gerdded ac mae’n mynd â chi yr holl ffordd i Siop Fferm Bubbleton am ginio swmpus a choffi gwych a chacennau cartref. Cadwch lygad am y llamhidyddion a’r morloi! Ac os nad ydych awydd cerdded yr holl ffordd yn ôl, daliwch y trên o Benalun yn ôl i Saundersfoot! O orsaf Saundersfoot, mae llwybr i gerddwyr erbyn hyn sy’n dilyn y ffordd yn ôl i’r pentref.

The Mulberry restaurant
Ar ôl diwrnod ar lan y môr, bydd angen swper da arnoch – mae digon o opsiynau yn Saundersfoot, ac yn eu plith mae Bwyty’r Mulberry. Mae’r bwyty bistro clyd hwn â lle i bron 80 o bobl, ac yn cynnig awyrgylch arbennig dan do – gyda thrawstiau pren a brics agored – a byrddau al fresco sy’n berffaith ar gyfer gwylio pobl. Mae’r fwydlen yn cyfuno bwydydd Prydeinig a rhyngwladol ac yn defnyddio cynnyrch lleol, ac ymhlith y dewisiadau arbennig mae draenog y môr wedi’i goginio’n berffaith, sgiwerau corgimychiaid mawr, a chyri llysiau sy’n addas i feganiaid.

©VisitPembrokeshire.com Monkstone Point, south of Saundersfoot on the Coast Path
Diwrnod tri
Amser am ychydig o orffwys ac ymlacio! Rhowch gynnig ar y pwll anfeidredd awyr agored yng Ngwesty Sba St Brides, sy'n edrych dros Fae Saundersfoot ac sy'n teimlo fel petaech chi'n rhan o'r dirwedd ei hun. Os oes angen tylino arnoch ar ôl gweithgareddau egnïol ddoe, mae nifer o driniaethau ar gael.

Philly’s Bar & Kitchen
Yn ôl yng nghanol y pentref, mae Philly's Bar & Kitchen yn lle gwych ar gyfer cinio. Mae'n cynnig baguettes ffres, ciniawau ysgafn, coffi a choctels, a'r cyfan wedi'i weini mewn awyrgylch cyfeillgar. Gallwch eistedd dan do neu yn yr awyr agored a gwylio’r byd yn mynd heibio.
Yn y prynhawn, mae'n amser gwneud rhywbeth yn lleol – cael hufen iâ a mynd i'r traeth – beth bynnag fo'r tywydd! Mae'r pyllau creigiog rhwng traeth Saundersfoot ei hun a Neuadd Coppet gerllaw bob amser yn dda i gael cipolwg arnynt, a chadwch lygad am y llanw fydd yn dod i mewn, a'r cychod pysgota lleol!
Os hoffech ddysgu mwy am hanes yr ardal, ewch i'r Ganolfan Groeso a darganfod tarddiad Saundersfoot ac arwyddocâd y diwydiant glo yn Sir Benfro, y cynnydd ym mhwysigrwydd y diwydiant yn fyd-eang a arweiniodd at adeiladu'r Harbwr, a dirywiad y diwydiant glo yn Sir Benfro yn y ganrif ddiwethaf. Wedi hynny, ewch am dro o gwmpas yr ardd synhwyraidd hardd sydd yn ymyl y Ganolfan Groeso. Yn ystod misoedd yr haf mae'r ardd yn fôr o liw.
Gorffennwch eich diwrnod gyda swper yn Lan y Môr yn Neuadd Coppet, y bwyty gyda golygfeydd godidog ar draws y bae tuag at benrhyn Gŵyr y tu hwnt.
Diwrnod pedwar
Ar eich diwrnod olaf, edrychwch y tu hwnt i Saundersfoot a chynlluniwch antur fach. Gyda'r orsaf drenau ar garreg y drws, beth am ddal trên i Faenorbŷr ac archwilio'r castell a'r traeth? Yn fan syrffio poblogaidd, gallwch hyd yn oed logi byrddau syrffio o ysgol syrffio Outer Reef yn y pentref a rhoi cynnig ar lywio rhai o’r tonnau.
I'r cerddwyr brwd, gallwch gerdded o Faenorbŷr ac ymuno â llwybr yr arfordir i draeth Skrinkle a childraeth Church Doors – dau draeth hardd wedi’u gwahanu gan glogwyn uchel gyda thwnnel naturiol cyfrin rhwng y ddau. Neu ewch i’r cyfeiriad arall a mynd â phicnic i draeth Swanlake, traeth tawel a diarffordd godidog gyda golygfeydd tuag at Barafundle ac Ystagbwll.
Neu, ewch ar y trên neu yrru car am daith fer i Arberth gerllaw, tref farchnad syfrdanol gyda stryd fawr brysur yn llawn siopau annibynnol ac sy'n cael ei phleidleisio yn rheolaidd yn un o'r lleoedd gorau i fyw yng Nghymru.
Lleoedd i aros
Mae nifer o opsiynau gwych ar gyfer llety yn Saundersfoot a'r cyffiniau i weddu pob cyllideb.

St Bride’s Spa Hotel
Am ychydig o foethusrwydd, beth am Westy Sba St Brides, sydd ar ben clogwyn yn edrych dros y bae. Mae'n westy 4 seren Croeso Cymru, â sba arobryn, pwll anfeidredd awyr agored, ystafell thermol, ystafell ffitrwydd, a Bwyty 2 AA Rosette yn gweini cynnyrch Sir Benfro. Mae’r ardaloedd lolfa chwaethus a'r terasau arfordirol yn cynnig golygfeydd godidog o'r môr.

Saundersfoot Harbour accomodation
Eisiau bod yng nghanol bywyd y pentref? Beth am lety Harbwr Saundersfoot. Mae'n cynnig llety clyd a modern gyda golygfeydd ysblennydd o'r môr neu'r harbwr, cyfleusterau te/coffi, Wi-Fi cyflym a mynediad uniongyrchol i gyfleusterau'r traeth a'r pentref. Mae rhai ystafelloedd hefyd yn gyfeillgar i gŵn!
Os yw parciau gwyliau a charafanau yn fwy at eich bodd, edrychwch ar Gerddi Swallow Tree a Maes Carafanau Trees.
Mae Gerddi Swallow Tree yn barc gwyliau arfordirol arobryn sy'n cael ei redeg gan deulu, ychydig lathenni o'r traeth. Mae'n cynnig llety moethus, cabanau pinwydd a charafanau â digonedd o gyfarpar (rhai gyda thwb poeth), yn ogystal â chyfleusterau hamdden ar y safle gan gynnwys pwll dan do, sawna, ystafell stêm ac ystafell ffitrwydd.
Mae Parc Carafanau Trees, sef safle bach a redir gan deulu yn Stepaside, â charafanau statig modern, amgylchedd coetir tawel, ac ond milltir o Bont Wisemans ac yn agos i Saundersfoot. Mae'n gyfeillgar i gŵn gyda chyfleusterau teuluol a Wi-Fi am ddim, ac mae'n ddelfrydol i'r rhai sydd am dawelwch a mynediad i’r arfordir.
Ar ôl ychydig ddyddiau llawn cyffro, mae'n swnio fel y bydd angen gwyliau arnoch i adfer!












