Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Trefdraeth

Mae Trefdraeth yn dref fach hyfryd ar arfordir gogleddol Sir Benfro. Mae ganddi ymwelwyr ffyddlon iawn, gyda llawer ohonynt yn treulio hafau cyfan yno bob blwyddyn, ac mae rheswm da am hynny.

Mae Trefdraeth yn noddfa hamddenol, heb ei datblygu, sy’n wrthgyferbyniad perffaith i brysurdeb bywyd modern.

Gellir rhannu Trefdraeth yn ddau hanner, y strydoedd o gwmpas Stryd y Farchnad a’r ardal o gwmpas y Parrog. Ar un adeg roedd Stryd y Farchnad yn ddigon llydan i ddal stondinau marchnad ond ers hynny mae wedi ei chulhau yn sgil gosod gerddi ffrynt o flaen nifer o’r tai.

Darllenwch ein syniadau am bethau i’w gwneud pan fyddwch yn aros yn Nhrefdraeth. – 48 awr yn Nhrefdraeth.

Mae gwasanaeth bysiau arfordirol 405, y Roced Poppit yn cysylltu Trefdraeth ag Aberteifi ac Abergwaun yn ogystal â phentrefi’r ardal.

Sefydlwyd y dref gan y Norman William FitzMartin tua 1197. Sefydlodd William Drefdraeth fel prif dref newydd Arglwyddiaeth Cemais, un o arglwyddiaethau’r Mers, ac roedd yn borthladd prysur yn bennaf yn sgil y fasnach wlân ganoloesol oedd yn prysur dyfu. Er iddo gael ei gipio oddi wrth y Cymry, parhaodd i fod yn eiddo i deulu FitzMartin hyd nes i William, Arglwydd Martin yr 2il, farw heb etifedd gwrywaidd ym 1326.

Adeiladwyd y castell yn y 12fed Ganrif ac mae’n cynnwys porthdy anferth gyda dau dŵr crwn o boptu iddo, tŵr y ddaeargell yn y de orllewin a thŵr yr Heliwr yn y gogledd orllewin. Câi’r ochr dde ddwyreiniol, a oedd yn eithaf agored i ymosodiad, ei gwarchod gan dŵr mawr siâp D.

Gerllaw’r tŵr hwn mae gweddillion rhan o’r capel a chrypt bwaog. Mae daeargell fwaog yn y tŵr de orllewinol hyd heddiw. Mae’r castell yn eiddo preifat.

Y Parrog oedd canolbwynt y gweithgarwch morwrol. Rhwng y 16eg a’r 18fed ganrif penwaig oedd prif ddiwydiant Trefdraeth ac wedi i hwn ddirywio, trodd y porthladd at fasnach arfordirol ac adeiladau llongau, hyd at y 19eg ganrif.

Gallai gêm wyllt y Cnapan fod wedi dechrau yma yn yr Oesoedd Canol fel rhyw fath o ryddhad i’r gwerinwyr lleol oddi wrth eu gwaith undonog. Dywedir mai hon oedd rhagflaenydd rygbi a’i bod yn cael ei chwarae gan drigolion Trefdraeth a thrigolion pentref cyfagos Nanhyfer. Câi ei chwarae ar y tir gwledig rhwng y ddau bentref. Doedd fawr iawn o reolau i arafu’r chwarae. Roedd dau grŵp o chwaraewyr ar bob ochr, rhai’n ymladd am y cnapan neu’r bêl ac eraill yn redwyr cyflym. Roedd symudiadau tebyg i’r sgrym a’r llinell hefyd.

Trefdraeth

Trefdraeth | Visit Pembrokeshire