
Mae Abereiddi’n bentref bychan bach ar arfordir gogleddol Penrhyn Tyddewi, tua 5 milltir o Dyddewi ei hun.
Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro’n mynd heibio’r traeth ac mae’r rhan o Abereiddi i Borthgain (http://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb/darganfod-sir-benfro/llwybr-arfordir-sir-benfro/porth-mawr-i-dre-fin)yn un o rannau gorau lwybr yr arfordir.
Mae Abereiddi ar lwybr Gwibiwr Strwmbwl. Mae gwasanaeth bws yr arfordir (http://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb/darganfod-sir-benfro/teithio-o-gwmpas)yn dilyn yr arfordir o Ben-caer ger Abergwaun i Dyddewi ac mae’n ffordd wych o fwynhau’r Parc Cenedlaethol heb gar.
Roedd Abereiddi’n ymwneud â’r diwydiant llechi ac roedd chwarel fechan ychydig i’r gogledd o’r traeth. Yn wreiddiol, roedd y llechi’n cael eu cludo ar draws draeth Abereiddi, ond yn ddiweddarach ar hyd tramffordd, i’r harbwr ym Mhorthgain sydd ychydig o filltiroedd i’r gogledd. Heddiw, mae’r chwarel wedi ei boddi ac yn fwy adnabyddus fel y Shinc.
Mae’r Shinc 25 metr o ddyfnder ac mae’r dŵr bob amser yn wyrddlas unigryw oherwydd y mwynau yn y chwarel.
Mae adfeilion casgliad bychan o dai o’r enw’r Stryd yn dal i fod wrth y traeth. Roedd rhain yn dai a adeiladwyd i chwarelwyr Y Shinc a adawodd ar ôl llifogydd ar ddechrau’r 20fed ganrif.

Abereiddy
Places to stay